Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymorth ac Atal Cynnar yn y Cartref

Mae gwasanaethau a phrosiect Cymorth yn y Cartref yn rhan o raglen waith ehangach i geisio sicrhau bod gwaith ymyrryd a chymorth cynnar yn y cartref ar gael yn gyson i oedolion ar draws Powys. 

Gwasanaeth Cymorth yn y Cartref

Mae Cymorth yn y Cartref yn wasanaeth cymorth ac atal cynnar i ddinasyddion (50+) sy'n galluogi ac yn darparu'r gefnogaeth a'r cymorth ymarferol y gallai fod eu hangen ar unigolyn yn ei fywyd o ddydd i ddydd i fyw gartref yn hyderus, mewn iechyd da, yn annibynnol ac yn ddiogel.

Mae a wnelo cymorth yn y cartref â gosod unigolyn mewn sefyllfa sy'n golygu ei fod yn gallu rheoli ei ofal a'i gymorth, fel y gall fyw gartref mor annibynnol â phosibl. Mae'r timau Cymorth Cartref yn gweithio'n agos gydag unigolion, eu teuluoedd ac unrhyw un arall yn eu bywyd, i'w helpu gyda'r cymorth sydd ei angen arnynt. Maent hefyd yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau eraill yn y gymuned leol i helpu i ddarparu gwell cymorth drwy'r cyfan. Mae gwasanaethau Cymorth Yn y Cartref am ddim. Nid yw mynediad yn seiliedig ar brawf modd nac yn dibynnu ar feini prawf cynhwysiant/gwahardd a gall unigolion hunangyfeirio. Unwaith y bydd unigolyn yn dod yn aelod o Gymorth Cartref gallant fynd i mewn ac allan o'r gwasanaeth yn unol â'u hanghenion heb orfod cael eu hailgyfeirio. Ymhlith y pethau y gall Cymorth Cartref helpu gyda nhw yn cynnwys:

  • Ymatebwyr Care Line 24/7/365
  • Gwiriadau llesiant rhagweithiol
  • Hyrwyddo annibyniaeth a lles a ffyrdd iach o fyw
  • Cymorth ymarferol (help gydag apwyntiadau, casglu presgripsiynau neu siopa angenrheidiol
  • Cynorthwyo gofalwyr gyda'u rôl
  • Cymorth a gofal personol dros dro
  • Cyfeirio, atgyfeirio a helpu i gael mynediad at grwpiau cymunedol lleol a rhwydweithiau cefnofi (gan gynnwys gofal a gwasanaeth a alluogir gan dechnoleg (TEC))

Gwasanaethau Cymorth yn y Cartref sydd ar gael ar hyn o bryd

Cymorth yn y Cartref Dwyrain Mesyfed

Manylion cyswllt

9am - 5pm

01544 260360

East Radnorshire Care Ltd, Old School, Heol Scottleton, Llanandras, LD8 2BL

Cymorth yn y Cartref Rhaeadr a Llandrindod  a Llanidloes

Manylion cyswllt

8:30am - 5:30pm

01597 810432

Cyngor Sir Powys, Canolfan Hamdden Rhaeadr, Stryd y Gogledd, Rhaeadr,  LD6 5BU

Cymorth yn y Cartref Llanfair-ym-Muallt a Llanwrtyd 

Manylion cyswllt

9am - 5pm

01982 553647

Builth Wells Community Support, 1 Stryd y Groes, Llanfair ym Muallt, LD2 3DW

Cymorth yn y Cartref ledled Powys

Sefydlwyd y prosiect Cymorth yn y Cartref yn 2018.  Y nod oedd profi effaith y gwasanaeth Cymorth yn y Cartref presennol yn Rhaeadr Gwy drwy ymestyn hyn i Landrindod (fel un ardal) a sefydlu dau wasanaeth newydd yn ardaloedd Dwyrain Maesyfed (Llanandras a Thref-y-clawdd), ac ardaloedd Llanidloes. Y weledigaeth oedd sefydlu gwasanaethau Cymorth yn y Cartref ym mhob un o'r 13 ardal ym Mhowys.

Mae'r ymrwymiad i ddysgu a gwella parhaus wedi bod yn rhan annatod o'r prosiect Cymorth yn y Cartref o'r cychwyn cyntaf. Mae hyn wedi cynnwys dau weithgaredd allweddol. Mae'r cyntaf yn cynnwys cofnodi ac adrodd ar holl weithgareddau'r gwasanaeth (data meintiol) o ran canlyniadau'r gwasanaeth. Mae hyn yn helpu i ddangos pwy sy'n cael cymorth, beth sydd wedi'i gyflawni, a'r gwahaniaeth y mae'r gwasanaeth wedi'i wneud. Mae'r ail weithgaredd yn helpu i ddangos pa mor dda y mae'r gwasanaeth wedi'i ddarparu/derbyn ac mae'n cynnwys adborth gan aelodau'r gwasanaeth a'u gofalwyr (arolwg blynyddol, canmoliaeth, cwynion ac astudiaethau achos). Mae'r gwerthusiad parhaus hwn wedi sicrhau cyllid prosiect a phrif ffrwd parhaus yn ogystal â darparu tystiolaeth leol helaeth sy'n dangos yr effaith y mae gwasanaethau Cymorth yn y Cartref wedi'i chael ar fywydau unigolion. Gweler Adolygiadau Cymorth yn y Cartref 2018 -2024 isod.

Ym mis Gorffennaf 2021, cymeradwyodd Cabinet Cyngor Sir Powys y cynnig i weithio gyda gwasanaethau a chymunedau lleol i gyflwyno a phrif ffrydio gwasanaethau cymorth yn y cartref o'r tair ardal wreiddiol ym Mhowys, i bob un o'r tair ar ddeg. Ym mis Hydref 2022, sefydlwyd y pedwerydd gwasanaeth Cymorth yn y Cartref yn ardal Llanfair-ym-Muallt a Llanwrtyd, ac mae cynlluniau i barhau i sefydlu Cymorth yn y Cartref yn y naw ardal sy'n weddill ar y gweill, drwy Raglen Atal Powys, Help a Chymorth Cynnar @ Home Collaborative (Rhaglen Gydweithredol), a sefydlwyd ym mis Tachwedd 2023. Y nod yw dod â phartneriaid ar draws mentrau atal a chymorth cynnar profedig at ei gilydd. Bydd y Rhaglen Gydweithredol yn llywio, cynghori, cefnogi ac yn sicrhau modelau atal arloesol, cynaliadwy a chyson ynghyd â chymorth cynnar a chefnogaeth yn y cartref ym mhob un o'r 13 ardal ym Mhowys. Wrth wneud hyn, bydd y Rhaglen Gydweithredol yn helpu i wireddu'r weledigaeth Cymorth yn y Cartref ar gyfer gwasanaethau cymorth cynaliadwy yn y cartref ledled Powys fel rhan o 'gynnig' cymorth cynnar ac atal ehangach yn y cartref.

Rhagor o wybodaeth

* Fersiwn Cymraeg ar y gweill

** I gael copi o'r adroddiad llawn yn Gymraeg, cyflwynwch gais drwy - 'Cysylltu â ni.'

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu