Pleidleisio fel dinesydd tramor cymwys, dinesydd Gwyddelig neu ddinesydd gwlad y Gymanwlad
A allaf i bleidleisio os nad ydw i'n ddinesydd Prydeinig?
Rydych yn gymwys i bleidleisio mewn etholiad llywodraeth leol (a adnabyddir hefyd fel Cyngor lleol) a Llywodraeth Cymru os ydych yn 16 oed neu'n hŷn ac yn ddinesydd tramor cymwys.
Nid yw dinesydd tramor cymwys yn cynnwys y canlynol:
- dinesydd y Gymanwlad, neu
- ddinesydd Gweriniaeth Iwerddon
sydd â chaniatâd i aros, neu nad oes angen caniatâd i aros arno, neu sy'n cael ei drin fel rhywun sydd â chaniatâd i ddod i mewn i'r DU neu aros ynddi.
Gall dinasyddion tramor cymwys 14 oed a hŷn gofrestru i bleidleisio yng Nghymru.
Rwyf yn ddinesydd Gwyddelig neu'n ddinesydd gwlad y Gymanwlad, ym mha etholiadau allaf i bleidleisio?
Mae dinasyddion 14 oed a hŷn o Weriniaeth Iwerddon a'r Gymanwlad yn gymwys i gofrestru mewn etholiadau llywodraeth leol a Senedd Cymru.
Mae dinasyddion 16 oed a hŷn o Weriniaeth Iwerddon a'r Gymanwlad yn gymwys i gofrestru i bleidleisio yn etholiadau Senedd DU. Rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn i bleidleisio mewn etholiadau Senedd DU.
Analluogrwydd cyfreithiol i bleidleisio
Ni all person sy'n amodol ar analluogrwydd cyfreithiol i bleidleisio gael ei gynnwys ar gofrestr etholwyr.
Os nad ydych chi'n siŵr a yw hyn yn berthnasol i chi, mae cyfarwyddyd ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol fan hyn:https://www.electoralcommission.org.uk/cy/new-running-electoral-registration-wales/eligibility-register-vote/sut-mae-anghymhwyster-cyfreithiol-yn-effeithio-ar-yr-hawl-i-gofrestru-i-bleidleisio
Ffynhonnell : Y Comisiwn Etholiadol
Cysylltiadau
Rhowch sylwadau am dudalen yma