Pleidleiswyr yn cael eu hannog i gofrestru i gael dweud eu dweud ym mis Mai
25 Mawrth 2022
Er mwyn pleidleisio ym mis Mai, rhaid i drigolion fod ar y gofrestr etholiadol. Gyda'r dyddiad cau i gofrestru yn prysur agosau, mae Cyngor Sir Powys yn annog pobl sydd heb gofrestru yn eu cyfeiriad presennol i sicrhau eu bod wedi'u cofrestru mewn pryd.
Dyma'r tro cyntaf y bydd cyfle gan bobl rhwng 16 a 18 oed i bleidleisio yn yr etholiadau ym mis Mai, a fydd yn dewis cynghorwyr ar gyfer Cyngor Sir Powys a chynghorau tref a chymuned.
Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw hanner nos ddydd Iau 14 Ebrill. Dim ond pum munud fydd ei angen arnoch i wneud cais ar-lein yn gov.uk/register-to-vote.
Eleni bydd trigolion Powys yn pleidleisio i ddewis cynghorwyr a fydd yn cynrychioli eu hardal a thrigolion lleol, ac yn cyfrannu at ddatblygu polisiau mewn meysydd fel trafnidiaeth, gofal cymdeithasol a thai.
Dywedodd Dr Caroline Turner, Swyddog Canlyniadau Powys: "Nid oes llawer o amser ar ôl i chi wneud yn siwr y gallwch gymryd rhan yn yr etholiadau hyn. Maen nhw'n gyfle pwysig i leisio'ch barn ac i ddweud eich dweud ar bwy sy'n eich cynrychioli chi ar faterion sy'n effeithio'n uniongyrchol ar fywyd o ddydd i ddydd yma ym Mhowys.
"Os ydych newydd droi'n 16 neu wedi symud cartref, mae'n bwysig eich bod yn gwneud yn siwr eich bod wedi cofrestru'n gywir i bleidleisio.
"Mae cofrestru'n hawdd ac yn cymryd ond rhyw bum munud. Os na fyddwch wedi cofrestru erbyn 14 Ebrill, ni fyddwch yn gallu pleidleisio."
Gall pobl ddewis i bleidleisio mewn nifer o ffyrdd - wyneb yn wyneb, drwy'r post neu drwy benodi rhywun y maen nhw'n ymddiried ynddo i bleidleisio yn eu lle, sef pleidlais drwy ddirprwy.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy'r post yw 5pm ar 19 Ebrill, ac ar gyfer pleidlais drwy ddirprwy 5pm 26 April.
I gael gwybodaeth am etholiadau yn eu hardal, sut i gofrestru i bleidleisio, neu sut i wneud cais i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy, gall pleidleiswyr fynd i www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/pleidleisiwr. Bydd y dudalen hon yn parhau i gael ei diweddaru cyn y bleidlais.