Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rydym yn cael problemau gyda'n llinellau ffôn ar hyn o bryd.

Eiddo gwag

Eiddo gwag sy'n perthyn i elusen

Os yw elusen yn berchen ar eiddo, a'r eiddo hwnnw wedi'i ddefnyddio at ddibenion yr elusen cyn dod yn wag, mae'n bosibl y bydd wedi'i eithrio rhag talu Treth y Cyngor.  Bydd eithriad yn gymwys am hyd at 6 mis o'r dyddiad y daeth yn wag. Mae'r eithriad yma'n berthnasol boed yr eiddo wedi'i ddodrefnu neu beidio. 

Apply to have a property exempted from Council Tax on charitable grounds here Eiddo gwag sy'n perthyn i elusen

Mae'r eiddo'n cael gadw ar gyfer gweinidog crefyddol

Mae eiddo sy'n aros i weinidog crefyddol a fydd yn cyflawni ei (d)dyletswyddau yn rhinwedd ei swydd yn yr eiddo hwnnw wedi'u heithrio. 

Gwneud cais i gael eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor yma Mae'r eiddo'n cael gadw ar gyfer gweinidog crefyddol

Mae'r gyfraith yn gwahardd meddiannaeth

Os yw'r gyfraith yn gwahardd meddiannaeth yr eiddo, bydd wedi'i eithrio rhag Treth y Cyngor. Mae hyn yn cynnwys eiddo nad yw'n ffit i bobl fyw ynddynt, cabanau gwyliau a charafanau yn ystod y cyfnod pan nad oes modd eu meddiannu.

Gwneud cais i gael eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor yma Mae'r gyfraith yn gwahardd meddiannaeth

Llety'r Lluoedd Arfog

Mae eiddo sydd ym mherchnogaeth y Goron ac yn cael ei defnyddio fel Llety i aelod o'r Lluoedd Arfog wedi'i eithrio, boed yr eiddo hwnnw wedi'i feddiannu neu  beidio.

Gwneud cais i gael eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor yma Llety'r Lluoedd Arfog

Eiddo sydd wedi cael ei ailfeddiannu

Pan fydd banc/cymdeithas adeiladu wedi'i adfeddiannu eiddo, a'r eiddo hwnnw yn dal i fod yn gyfreithiol ym mherchnogaeth y meddianwr diwethaf, mae wedi'i eithrio. 

Gwneud cais i gael eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor yma Eiddo sydd wedi cael ei ailfeddiannu

Eiddo sy'n cael ei ddal gan ymddiriedolwr methdalwr

Mae eiddo gwag sy'n gyfrifoldeb ymddiriedolwr mewn achos methdalu wedi eithrio, boed yr eiddo wedi'i ddodrefnu neu beidio.

Gwneud cais i gael eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor yma Eiddo sydd wedi cael ei ailfeddiannu

Yn y carchar neu ddalfa gyfreithlon arall

Os bydd eiddo heb feddiant oherwydd bod y meddiannwr yn y ddalfa, mae wedi'i eithrio rhag Treth y Cyngor. Mae hyn yn berthnasol i unrhyw un sy'n cael ei gadw trwy orchymyn llys, boed hynny mewn carchar, ysbyty, neu unrhyw le arall.

Gwneud cais i gael eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor yma Yn y carchar neu ddalfa gyfreithlon arall

Wedi gadael i dderbyn gofal neu'n byw yn yr ysbyty

Os yw tenant eiddo yn byw mewn ysbyty, cartref gofal preswyl eu gartref nyrsio yn barhaol ac ni fydd yn dychwelyd i'r eiddo yna fe allai'r eiddo fod wedi'i eithrio rhag talu Treth y Cyngor.

Pan fydd rhywun wedi mynd i fyw gyda rhywun arall yn barhaol er mwyn derbyn gofal, gan adael ei eiddo heb feddiant, yna gallai'r eiddo hwnnw fod wedi'i eithrio.

Rhaid i'r unigolyn fod yn derbyn gofal yn sgil henaint, anabledd, salwch, dibyniaeth nawr neu yn y gorffennol ar alcohol neu gyffuriau, neu salwch meddwl nawr neu yn y gorffennol. 

Gwneud cais i gael eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor yma Wedi gadael i dderbyn gofal neu'n byw yn yr ysbyty

Wedi gadael i ddarparu gofal

Os ydych wedi gadael eich eiddo yn barhaol er mwyn darparu gofal i rywun, gan adael eich eiddo heb feddiant, bydd eich eiddo'n cael ei eithrio.

Rhaid i chi fod yn darparu gofal i rywun sydd angen gofal oherwydd henaint, anabledd, salwch, dibyniaeth nawr neu yn y gorffennol ar alcohol neu gyffuriau, neu anhwylder meddwl nawr neu yn y gorffenn.

Gwneud cais i gael eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor yma Wedi gadael i ddarparu gofal

 

Mae'n bosibl y byddwch hefyd wedi'ch  eithrio rhag talu Treth y Cyngor yn yr eiddo lle rydych chi'n darparu gofal.

Wedi gadael i fynd addysg amser llawn

Os ydych wedi gadael eich eiddo'n wag pan fyddwch yn byw rhywle arall fel myfyriwr mewn sefydliad addysgol, bydd eich eiddo wedi'i eithrio rhag Treth y Cyngor. Mae'n rhaid i chi sicrhau eich bod wedi cadw'r hawl i ddychwelyd i'ch eiddo.

Gwneud cais i gael eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor yma Wedi gadael i fynd addysg amser llawn

Rhagor o wybodaeth am Dreth y Cyngor i fyfyrwyr, prentisiaid a hyfforddeion

Anecs heb feddiant i eiddo mewn meddiant

Os nad oes modd gosod anecs ar wahân i'r eiddo sydd wedi'i feddiannu oherwydd y byddai'n mynd yn groes i'r rheoliadau cynllunio, mae'n bosibl y bydd wedi'i eithrio rhag Treth y Cyngor. 

Gwneud cais i gael eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor yma Anecs heb feddiant i eiddo mewn meddiant

Llain garafanau neu angorfeydd cychod heb feddiant

Mae llain carafán neu angorfa cychod nad oes carafán neu gwch yn ei meddiannu wedi'i heithrio rhag Treth y Cyngor. 

Gwneud cais i gael eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor yma Llain garafanau neu angorfeydd cychod heb feddiant

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu