Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rydym yn cael problemau gyda'n llinellau ffôn ar hyn o bryd.

Eiddo sydd wedi'u meddiannu

Neuaddau Preswyl

Mae neuaddau preswyl i fyfyrwyr wedi'u heithrio cyn belled bod y neuadd ym mherchnogaeth neu dan reolaeth sefydliad adddysgol.

Gwneud cais i gael eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor yma Neuaddau Preswyl

Eiddo â dim ind myfyrwyr neu nyrsys dan hyfforddiant yn byw ynddo

Os mai dim ond myfyriwr / myfyrwyr amser llawn sy'n byw yn yr eiddo, bydd wedi'i eithrio.

Diffiniad o fyfyriwr:

  • Rhywun sydd wedi ymgofrestru ar gwrs addysg amser llawn. Rhaid i'r cwrs bara am o leiaf un flwyddyn a rhaid i'r myfyriwr fynychu'r cwrs am o leiaf 24 wythnos y flwyddyn ac astudio am o leiaf 21 awr yr wythnos. 
  • Rhywun dan 20 oed ar gwrs sy'n para am o leiaf 3 mis calendr ac sy'n astudio am o leiaf 12 awr yr wythnos. Rhaid i'r cwrs beidio â bod yn gwrs addysg uwch. Nid yw dosbarthiadau nos a chyrsiau gohebol yn gymwys.

Gwneud cais i gael eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor yma Eiddo â dim ind myfyrwyr neu nyrsys dan hyfforddiant yn byw ynddo

Eiddo â dim ond unigolyn / unigolion a nam meddyliol difrifol yn byw ynddo

Mae eiddo â dim ond unigolyn / pobl â nam meddyliol difrifol yn byw ynddo wedi'i eithrio rhag Treth y Cyngor.

Amhariad difrifol ar ddeallusrwydd a'r gweithredu cymdeithasol (beth bynnag sydd wedi achosi hyn) sy'n ymddangos fel petai'n barhaol yw hyn.

Rhaid i ymarferydd meddygol dystio i hyn, a rhaid i'r unigolyn sy'n ei dderbyn hefyd fod â hawl i un o'r budd-daliadau canlynol:

  • Budd-dal Analluogrwydd 
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Anabled Difrifol
  • Cydran Gofal y Lwfans Byw i'r Anabl sy'n daladwy ar y gyfradd uwch na ganolig dan y Ddeddf
  • Cynnydd yng nghyfradd y Pensiwn Anabledd 
  • Lwfans Gweithio i'r Anabl
  • Atodiad Anghyflogadwyedd 
  • Lwfans Gweini Cyson dan Gynllun Anafiadau Personol (Sifiliaid) 1983 neu dan erthygl 14 Orchymyn Pensiwn Gwasanaeth (Anabledd a Marwolaeth) y Llynged y Fyddin neu'r Llu Awyr
  • Lwfans Anghyflogadwyedd dan yr uchod (8)
  • Cymhorthdal Incwm lle mae'r swm perthnasol yn cynnwys premiwm anabledd

Gwneud cais i gael eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor yma Eiddo â dim ond unigolyn / unigolion a nam meddyliol difrifol yn byw ynddo

Eiddo sydd wedi'u meddiannu gan rywun dan 18 oed yn unig

Mae eiddo ag unigolyn / â pobl dan 18 yn unig yn byw ynddo wedi'i eithrio.
Mae enw'r landlord neu'r perchennog ar y bil a bydd yr eithriad yn ymddangos ar eu bil nhw.

Gwneud cais i gael eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor yma Eiddo sydd wedi'u meddiannu gan rywun dan 18 oed yn unig

Eiddo gydag unigolyn/pobl sydd a braint neu imiwnedd dipolmyddol

Mae eiddo â dim ond rhywun sydd â braint diplomyddol neu imiwnedd yn byw ynddo wedi'i eithrio rhag Treth y Cyngor. 

Gwneud cais i gael eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor yma Eiddo gydag unigolyn/pobl sydd a braint neu imiwnedd dipolmyddol

Eiddo mewn meddiant sy'n anecs ar wahan (sef as anecs nain a thaid)

Mae anecs nain a thaid, neu uned debyg sy'n gartref i aelodau hyn neu anabl o'r teulu sy'n byw ym mhrif ran yr eiddo wedi'u heithrio rhag talu Treth y Cyngor.

Mae dibynnydd o'r fath yn rhywun sydd:

  • yn 65 neu'n hyn, neu
  • â nam difrifol ar y meddwl, neu
  • yn sylweddol ac yn barhaod anabl (boed hynny trwy salwch, anafa, anffurfiad cynenedigol neu fel arall)

Mae aelod o'r teulu yn golygu:  cymar, rhiant, nain neu daid, plentyn, llysblentyn, wyr neu wyres, brawd, chwaer, ewythr, modryb, nai neu nith, neu riant y cyfrys berthynas, gan gynnwys  perthynas trwy briodas neu hanner gwaed.

Gwneud cais i gael eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor yma Hawlio Eithriad

Rhai sy'n Gadael Gofal

Gall eithriad Treth y Cyngor ddigwydd pan fydd preswylfa yng Nghymru ym meddiant un neu ragor o 'rai sy'n gadael gofal' a lle bydd pob preswylydd naill ai yn 'rai sy'n gofal', yn 'unigolion perthnasol', neu'n 'unigolion â nam meddyliol difrifol'.

Mae "rhai sy'n gadael gofal" yn golygu rhai sydd -

  • yn 24 neu'n iau; ac
  • yn unigolion ifanc categori 3 yn ôl diffiniad adran 104 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(2) 2014 

Mae "unigolion perthnasol" yn golygu yr ystyr a roddir ym mharagraff 2(a) Dosbarth N;

  • rhai sydd â buddiant rhydd-ddaliad neu les-ddaliad mewn unrhyw ran o'r breswylfa neu'r breswylfa gyfan, neu mewn trwydded i feddiannu unrhyw ran o'r breswylfa neu'r breswylfa gyfan

Mae "unigolion â nam meddyliol difrifol" yn golygu yr ystyr a roddir ym mharagraff 2 Atodlen 1 y Ddeddf;"

(1)   Rhaid i unigolion gael eu diystyru at ddibenion gostyngiad ar ddiwrnod penodol os —

  • ar y diwrnod dan sylw mae ganddynt nam meddyliol difrifol;
  • o ran unrhyw gyfnod sy'n cynnwys y diwrnod y nodir mewn tystysgrif gan ymarferydd meddygol cofrestredig ei fod, neu'n debygol o fod yn dioddef nam meddyliol difrifol; ac
  • o ran y diwrnod y mae'n cyflawni'r cyfryw amodau a ragnodwyd trwy orchymyn a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

(2)   At ddibenion y paragraff yma, mae gan unigolion nam meddyliol difrifol os oes ganddynt nam difrifol ar eu deallusrwydd a'u gweithredu cymdeithasol (beth bynnag sy'n achosi hyn) sy'n ymddangos fel pe bai'n barhaol.

(3)   Gall yr Ysgrifennydd Gwladol, trwy orchymyn, ddisodli'r diffiniad yn is-baragraff (2) sydd am y tro yn effeithiol at ddibenion y paragraff yma.

Gwneud cais am eithriad rhai sy'n gadael gofal Treth y Cyngor: Disgownt / Eithriadau - Pobl Sy'n Gadael Gofal

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu