Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Tâl Cymorth Ariannol i Ofalwyr di-dâl

Bydd gofalwyr di-dâl yn derbyn un tâl o £500 i gydnabod y pwysau ariannol cynyddol ar ysgwyddau nifer o ofalwyr di-dâl yn ystod y pandemig, ac i helpu gyda rhai o'r costau ychwanegol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu agor y grant hwn am ail gyfnod cofrestru.  Bydd y meini prawf yn parhau i fod fel isod. Bydd y ddolen i'r cais yn agor am 9am, 15 Awst 2022 a bydd yn cau am 5pm, 2 Medi 2022.

Os byddwch angen help i gyflwyno cais neu angen cyngor cyffredinol  ar grantiau neu fudd-daliadau neu ddyfarniadau, galwch 01597 826345.

Pwy sy'n gymwys i dderbyn y tâl

Rydych yn gymwys os:-

  • Rydych yn gofalu am rywun am o leiaf 35 awr yr wythnos ac ar incwm isel
  • Rydych yn derbyn Lwfans Gofalwyr ar 31 Mawrth 2022 neu wedi derbyn Lwfans Gofalwyr fel ôl-daliad ar gyfer y dyddiad hwnnw.
  • Rhaid i unigolion sy'n cofrestru am y tâl fyw yng Nghymru.

Ni allwch hawlio'r tâl os :-

  • oes ganddynt hawl sylfaenol i Lwfans Gofalwyr ond nad ydynt yn derbyn tâl oherwydd eu bod yn derbyn budd-dal arall ar yr un raddfa neu ar raddfa uwch; neu
  • maen nhw'n derbyn premiwm gofalwr yn unig o fewn budd-dal sy'n dibynnu ar brawf modd ac NID lwfans gofalwyr ei hun.

Sut fydd yn gweithio


Cam 1

Efallai bydd Cyngor Sir Powys yn gallu adnabod nifer o ofalwyr di-dâl cymwys trwy setiau data presennol.  Os hynny, byddwn yn cysylltu ag unigolion cymwys yn eu gwahodd i gofrestru ar gyfer y tâl.

Cam 2

Os ydych chi'n credu y gallwch hawlio'r tâl hwn, gallwch gyflwyno cais trwy'r wefan hon o 16 Mai 2022.

Cam 3

Bydd y ceisiadau llwyddiannus yn cael eu talu rhwng mis Mehefin a diwedd mis Medi 2022.

Sylwch, dylech gofrestru gyda'r Cyngor lle rydych chi'n byw, nid gyda'r Cyngor lle mae'r person dan eich gofal yn byw (os yw'n wahanol)

Gwneud cais am daliad cymorth ariannol i Ofalwyr Di-dâl Ffurflen gais am y taliad cymorth ariannol i Ofalwyr Di-dâl

Os byddwch angen help i gyflwyno cais neu angen cyngor cyffredinol  ar grantiau neu fudd-daliadau neu ddyfarniadau, galwch 01597 826345.