Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

​​​​​​​Dal i fod amser i gofrestru i bleidleisio yn yr etholiadau sydd i ddod

Image of County Hall

6 Ebrill 2022

Image of County Hall
Gydag ychydig dros wythnos i fynd tan y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio ar gyfer yr etholiadau lleol y mis nesaf, rhaid i unrhyw un sydd am bleidleisio sicrhau eu bod wedi'u cofrestru mewn pryd.

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw hanner nos ddydd Iau 14 Ebrill.   Gallwch wneud cais ar-lein yma www.gov.uk/register-to-vote. Ni ddylai gymryd mwy na phum munud i wneud hyn.

Ar ddydd Iau 5 Mai bydd pobl ym Mhowys yn cael y cyfle i ddweud eu dweud ar bwy sy'n eu cynrychioli ar lefel lleol.  Eleni bydd trigolion Powys yn pleidleisio i ddewis cynghorwyr, i gynrychioli eu hardal leol a'i thrigolion, ac yn cyfrannu at ddatblygu polisïau mewn meysydd fel trafnidiaeth, gofal cymdeithasol a thai.

Dywedodd Dr Caroline Turner, Swyddog Canlyniadau Powys: "Gydag ond ychydig dros wythnos i fynd, nid oes llawer o amser ar ôl i chi wneud yn siwr y gallwch gymryd rhan yn yr etholiadau hyn.  Maen nhw'n gyfle pwysig i leisio'ch barn ac i ddweud eich dweud ar bwy sy'n eich cynrychioli chi ar faterion sy'n effeithio'n uniongyrchol ar fywyd o ddydd i ddydd yma ym Mhowys.

"Os ydych newydd droi'n 16 neu wedi symud cartref, mae'n bwysig iawn eich bod yn gwneud yn siwr eich bod wedi cofrestru'n gywir i bleidleisio.

"Fel mwyn pleidleisio, rhaid i drigolion fod ar y gofrestr etholiadol.  Mae cofrestru'n hawdd ac yn cymryd ond rhyw bum munud.

Os na fyddwch wedi cofrestru erbyn hanner nos 14 Ebrill, ni fyddwch yn gallu pleidleisio."

Gall pobl ddewis i bleidleisio mewn nifer o ffyrdd - wyneb yn wyneb, drwy'r post neu drwy benodi rhywun y maen nhw'n ymddiried ynddynt i bleidleisio yn eu lle, sef pleidlais drwy ddirprwy.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy'r post yw 5pm ar 19 Ebrill, ac ar gyfer pleidlais drwy ddirprwy 5pm 26 April.

I gael gwybodaeth am etholiadau yn eu hardal, sut i gofrestru i bleidleisio, neu sut i wneud cais i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy, gall pleidleiswyr fynd i https://www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/pleidleisiwr. Bydd y dudalen hon yn parhau i gael ei diweddaru cyn y bleidlais.