Rolau swyddi ym maes Gofal Cymdeithasol Plant
Dyma adeg gyffrous i ymuno â ni ac mae ystod wych o gyfleoedd ar gael yn y timau hyn:
Drws Blaen
Dyma fan cyrraedd Gwasanaethau Plant ym Mhowys lle gall deuluoedd ddod am wybodaeth, cyngor a chefnogaeth. Yma hefyd daw atgyfeiriadau at Wasanaethau Plant.
Mae'r tîm yn casglu gwybodaeth a, gyda theuluoedd a chydweithwyr aml-asiantaeth.
Rydym yn gwneud penderfyniadau ar bwy sy'n gymwys i dderbyn gofal a chymorth a diogelu plant, gan sicrhau ein bod yn delio ag achosion yn briodol ac yn amserol, gan gyfeirio plant, pobl ifanc a'u teuluoedd at wasanaeth Cymorth cynnar, neu sicrhau eu bod yn symud ymlaen yn gyflym i'r Tîm Asesu pan mae'n amlwg fod angen asesiad.
Cymorth Cynnar
Rydym yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd mor fuan â phosibl i'w helpu nhw wneud unrhyw newidiadau i gyrraedd eu gôl fel teulu ac osgoi'r angen am ymyriad gwaith cymdeithasol statudol.
Byddwn yn gweithio'n agos gyda'n cydweithwyr ym maes iechyd, addysg, tai ac asiantaethau partner eraill, gan gynnwys y trydydd sector, i helpu teuluoedd greu cysylltiadau â'u cymunedau.
Tîm Asesu
Dyma le fydd gweithwyr cymdeithasol yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd i gynnal Asesiadau Lles ac ymholiadau adran 47. Yma rydym yn ceisio dal ac asesu cryfderau, anghenion a pheryglon er mwyn sicrhau ymyrraeth effeithiol.
Os bydd angen cysylltiad pellach, bydd y plentyn, y person ifanc a'r teulu wrth wraidd y cynllun ac yn cydweithio ar y cynllun.
Yn dilyn asesiad, bydd rhai teuluoedd yn gallu camu lawr i'r tîm cymorth cynnar 'Cymorth Cynnar' neu'n symud ymlaen i dderbyn gofal a chymorth.
Tîm Dyletswydd Argyfwng
Mae ein Tîm Dyletswydd mewn Argyfwng yn delio â sefyllfaoedd brys y tu allan i oriau nad yw'n ddiogel eu gadael tan y diwrnod gwaith nesaf.
Y tîm hwn sy'n ymateb i bryderon diogelu a gall roi cyngor a chefnogaeth ar faterion brys a materion iechyd meddwl plant a phobl ifanc sy'n dod i'r amlwg pan fydd gwasanaethau dydd ar gau.
Mae ein tîm yn gweithio ar sail rota ac yn darparu gwasanaeth generig ar gyfer y sir gyfan ar sail rota; mae'r tîm yn gweithio ar draws disgyblaethau'r Gwasanaethau i Oedolion a'r Gwasanaethau Plant.
Gofal a Chymorth
Mae'r timoedd hyn yn canolbwyntio ar blant, pobl ifanc a'u teuluoedd lle cafwyd asesiad gwaith cymdeithasol a'i fod yn amlwg bod angen gwasanaethau ychwanegol. Gall fod yn blant sydd angen gofal a chymorth neu amddiffyn, teuluoedd yn y broses PLO neu achosion llys.
Gofal Trwodd
Yn y timoedd hyn, ein blaenoriaeth yw plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal. Rydym am fod y rhiant gorau posibl gan wneud ein gorau i sicrhau fod plant a phobl ifanc yn cael pob cyfle i wireddu eu breuddwydion.
Ymyrraeth ac atal
Bydd y gwasanaeth hwn yn helpu i sicrhau y gall plant barhau i fyw gyda'u theuluoedd lle bynnag bod hyn yn ddiogel ac yn fuddiol iddyn nhw. Mae'r gwasanaeth yn darparu cefnogaeth ddwys i sefydlogi a chynorthwyo teuluoedd. Y nod yw lleihau'r angen i blant a phobl ifanc ddod i ofal.
Os oes rhaid i blant ddod i ofal byddwn yn cydweithio â nhw a'u teuluoedd fel y gall plant ddychwelyd adref yn gyflym ac yn ddiogel.
Amser Teulu
Mae'r tîm yma'n galluogi plant a phobl ifanc i dreulio amser gyda'u rhieni a'u brodyr a'u chwiorydd mewn awyrgylch diogel a gofalgar.
Gofal Preswyl
Mae Gwasanaethau Plant Powys wedi ymrwymo i ofalu am blant Powys o fewn yr awdurdod a datblygu ein darpariaeth mewnol fel rhan o'r strategaeth yn nes at adref. Mae Gofal Preswyl yn cynnig gofal a chymorth o ansawdd i blant Powys yn ein cartrefi preswyl mewnol.