Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyhoeddi ymgeiswyr ar gyfer etholiadau'r cyngor sir

Image of County Hall

6 Ebrill 2022

Image of County Hall
Cafodd cyfanswm o 180 o ymgeiswyr eu henwi ar gyfer etholiadau cyngor sir fis nesaf, dywedodd Cyngor Sir Powys.

Bydd preswylwyr Powys ym mynd i'r gorsafoedd pleidleisio ddydd Iau 5 Mai i fwrw pleidlais dros y bobl maen nhw am gael i'w cynrychioli ar y cyngor sir a'u tref leol a'r cynghorau cymunedol.

Caiff etholiadau llywodraeth leol eu cynnal bob pum mlynedd ac maen nhw'n darparu cyfle i bobl ddylanwadu ar bwy sy'n rheoli'r cyngor a chyfeiriad polisïau'r cyngor a gwariant.

Yn dilyn adolygiad gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru ceir 60 o wardiau etholiadol ym Mhowys a'r nifer o gynghorwyr a gaiff eu hethol i Gyngor Sir Powys fydd 68. Bydd gan 52 ward un cynghorydd yn eu cynrychioli, tra bydd wyth ward yn ethol dau gynghorydd yr un.

Bydd etholiadau cyngor sir yn 53 neu 60 o'r wardiau etholiadol gyda saith ward diwrthwynebiad. Y wardiau diwrthwynebiad yw:

  • Glantwymyn
  • Y Gelli
  • Llandinam â Dolfor
  • Llanrhaeadr-ym-Mochnant / Llansilin
  • Llansanffraid
  • Y Drenewydd - Dwyrain
  • Y Trallwng Llanerchyddol

Gall unrhyw un sy'n 16 neu'n hŷn bleidleisio yn yr etholiadau hyn, ar yr amod eu bod yn gymwys ac wedi cofrestru i bleidleisio erbyn canol nos ar 14 Ebrill. Gallwch gofrestru ar-lein yma www.gov.uk/register-to-vote .

Gall pobl ddewis pleidleisio mewn nifer o ffyrdd - yn bersonol, drwy'r post neu drwy benodi rhywun maen nhw'n ymddiried ynddo i bleidleisio ar eu rhan, sef pleidlais drwy ddirprwy.

Y dyddiad cau ar gyfer cais am bleidlais bost yw 5pm ar 19 Ebrill, a'r dyddiad cau ar gyfer pleidlais drwy ddirprwy yw 5pm ar 26 Ebrill.

Gellir gweld rhestr lawn o'r ymgeiswyr yma  Datganiad am y personau a enwebwyd ar gyfer Etholiadau Cyngor Sir Powys 2022 (PDF) [580KB].