Addewid Ymgyrch Deg
8 Ebrill 2022
Gwaetha'r modd, rydym ni'n gweld nifer gynyddol o gynghorwyr ac ymgeiswyr yn cael eu cam-drin, eu bygwth a'u dychryn.
Yn ogystal â bod yn gwbl annerbyniol, mae'r ymddygiad hwn yn tanseilio egwyddorion rhyddid barn, ymgysylltu democrataidd a thrafod.
Rydym ni'n ymdrechu i drin pawb â chwrteisi, caredigrwydd a pharch ac, fel Arweinwyr ein grwpiau gwleidyddol unigol, rydym ni'n sefyll gyda'n gilydd i alw am roi diwedd ar gam-drin, brawychu ac aflonyddu o unrhyw fath.
Mae hyn yn arbennig o berthnasol wrth i ni gychwyn ar y cyfnod allweddol cyn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai.
Rydym ni'n addo cymryd rhan mewn ymgyrch etholiadol deg sy'n seiliedig ar ymgyrchu cadarnhaol a theilyngdod, yn hytrach nag ymosodiadau personol a difenwol yn erbyn unigolion.
Rydym ni'n annog pob aelod etholedig a phob ymgeisydd yn yr etholiad sydd i ddod i wneud yr un peth. Yn ogystal, fe fyddwn ni'n amlygu'n gyhoeddus unrhyw ymddygiad amhriodol o'r fath ac ni fydd unrhyw oddefgarwch o ran cam-drin.
Mae gan bob un ohonom ni'r hawl i gyflawni ein dyletswyddau dinesig heb ofni ymosodiad neu gamdriniaeth. Mae unrhyw ymddygiad amhriodol - naill ai ar lafar, yn gorfforol neu'n ysgrifenedig ar y cyfryngau cymdeithasol - yn gwbl annerbyniol, a bydd camau'n cael eu cymryd os bydd angen.
Byddwch yn garedig ac yn deg ym mhopeth rydych chi'n ei ddweud ac yn ei wneud.