Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cyllid wedi'i sicrhau i gefnogi teuluoedd Nepalaidd yn ardal Aberhonddu

World surrounded by hands

World surrounded by hands
12 Ebrill 2022

Mae Cyngor Sir Powys wedi gwneud cais llwyddiannus i Gronfa Ymddiriedolaeth Cyfamod y Lluoedd Arfog i gyflawni'r prosiect 'Croesawu dwyieithrwydd gyda theuluoedd y Lluoedd Arfog'. 

Dyfarnodd y gronfa £9814 fel rhan o raglen Lluoedd Dros Newid 2022-23 i gefnogi cymunedau lleol y Lluoedd Arfog sydd wedi'u heffeithio gan unigedd. Bydd y prosiect yn hyrwyddo dwyieithrwydd gyda theuluoedd Nepalaidd yn ardal Aberhonddu. 

Bydd y prosiect yn dechrau'r mis hwn a bydd yn rhedeg am flwyddyn. Bydd yn cefnogi sesiynau cynefino i deuluoedd, gweithdai, sesiynau galw heibio, adnoddau a gwybodaeth i rieni er mwyn deall pwysigrwydd dwyieithrwydd.

Bydd y prosiect yn cael ei ddarparu gan y gwasanaeth ysgolion, ochr yn ochr â Gwasanaeth Lles y Fyddin, Ysgol Frwydro Troedfilwyr yn Aberhonddu ac ysgolion lleol.

I ddysgu mwy am y Tîm Grwpiau Agored i Niwed a sut maen nhw'n cefnogi disgyblion a theuluoedd gyda'u haddysg ar draws Powys ewch i'r Tîm Grwpiau Agored i Niwed - Cyngor Sir Powys

Nodiadau i'r Golygydd:
I gael rhagor o wybodaeth am Gronfa Ymddiriedolaeth Cyfamod y Lluoedd Arfog ewch i Cyflwyno'r Chwiliwr Prosiect AFCT : Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog