Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Llwyddiant y Gaeaf Llawn Lles i Lyfrgelloedd Powys

Storyteller, Daniel Morden

13 Ebrill 2022

Storyteller, Daniel Morden
Mae dros 6,500 o blant a phobl ifanc ym Mhowys wedi cymryd rhan mewn cyfres o ddigwyddiadau'r llyfrgell fel rhan o raglen Gaeaf Llawn Lles, dywedodd y cyngor sir.

Trwy gydol mis Mawrth, trefnodd Wasanaeth Llyfrgelloedd Powys gyfres o weithgareddau gan gynnwys adrodd storiau, gweithdai a chwaraeon, ynghyd â sesiynau rhithiol 'cwrdd â'r awdur' i ysgolion ledled y sir.

Cynhaliwyd y digwyddiadau hyn fel rhan o raglen Gaeaf Llawn Lles; menter dan arweiniad Llywodraeth Cymru i helpu plant a theuluoedd er mwyn sicrhau na fydd unrhyw blentyn yn cael ei adael ar ôl wrth ail-godi o'r pandemig.

Roedd plant ar draws Powys wedi mwynhau profiadau megis 'Alice's edible garden', 'Storytelling with Daniel Morden', 'gweithdai Zine', golff, sesiwn gyda'r awdur, Chloe Heuch, sesiwn amser stori dan arweiniad myfyrwyr i feithrinfa a threial ffug dan arweiniad myfyrwyr mewn ystafell llys!

Mewn ysgolion, ymunodd dysgwyr â'r awduron canlynol ar gyfer digwyddiadau digidol:

  • Tracey Corderoy
  • Guy Bass
  • Laura Dockrill
  • Bethan Gwanas
  • Manon Steffan Ros

Dywedodd Nina Davies, Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol: "Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ariannu'r gweithgareddau hyn. Rydym wedi gweld nifer go dda'n bresennol ac mae wedi bod yn braf gweld gymaint o blant a phobl ifanc yn cymryd rhan.

"Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Powys yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau addysgol a hwyliog dros y flwyddyn ac rydym yn argymell i bawb gadw llygad ar gyfryngau cymdeithasol fel nad ydych yn colli allan. Yn ogystal ag amrywiaeth o lyfrau i blant, rydym yn cynnig sesiynau stori a rhigwm i fabanod a phlant bach, clybiau lego a sesiynau ioga i fabanod, er enghraifft."

YN Y LLUN: Daniel Morden yn cyflwyno sesiwn adrodd stori yn Llyfrgell Machynlleth fel rhan o raglen Gaeaf Llawn Lles. Llun: danielmorden.org