Toglo gwelededd dewislen symudol

Y Cynllun Cymorth Costau Byw

New money

19 Ebrill 2022

New money
Bydd Cyngor Sir Powys yn gweinyddu cynllun a fydd yn dyfarnu taliad o £150 i aelwydydd cymwys ym Mhowys i helpu gyda chostau byw.

Bydd y cyngor yn gweinyddu'r Cynllun Cymorth Costau Byw ar ran Llywodraeth Cymru, sy'n debyg i gynllun ad-daliad treth y cyngor yn Lloegr.

Fel rhan o'r prif gynllun, bydd taliad cymorth costau byw o £150 yn cael ei dalu i drethdalwyr y cyngor sy'n byw mewn eiddo yn y bandiau A i D yn ogystal â threthdalwyr y cyngor sy'n derbyn Gostyngiad Treth y Cyngor, beth bynnag yw band eu heiddo.

Hefyd, bydd cynllun yn ôl disgresiwn yn cael ei sefydlu gan y cyngor er mwyn cefnogi aelwydydd a allai fod yn ei chael hi'n anodd cael deupen llinyn ynghyd ond nad ydynt yn bodloni meini prawf y prif gynllun.  Mae manylion y cynllun yn ôl disgresiwn yn cael eu datblygu ar hyn o bryd a byddant yn cael eu cyhoeddi pan fyddant yn barod.

Fel sy'n berthnasol i bob cynllun, un taliad o £150 fydd ar gael i bob aelwyd.

Bydd y cyngor yn defnyddio ei gofnodion Treth y Cyngor a Chynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor i adnabod aelwydydd sy'n gymwys o dan y cynllun.

Os ydych yn talu'ch treth y cyngor drwy ddebyd uniongyrchol, nid oes angen i chi wneud cais a bydd y cyngor yn rhoi'r taliad o £150 yn uniongyrchol yn eich cyfrif banc.

Os nad oes gan y cyngor eich manylion banc, byddwch yn derbyn llythyr gyda chod unigryw i ddarparu'r manylion hynny ar-lein. Ni allwch wneud cais nes eich bod wedi derbyn y cod unigryw.

Mae'r cyngor yn gobeithio dechrau gwneud y taliadau i gyfrifon banc wedi'u dilysu ym mis Mai.