Toglo gwelededd dewislen symudol

Ras i ddychwelyd i Bowys am y tro cyntaf ers Mehefin 2019

A bike race

22 Ebrill 2022

A bike race
Wrecsam a'r Trallwng fydd yn croesawu cymal allweddol ras Taith Feics y Merched eleni wrth i ddigwyddiad Taith Merched y Byd UCI ymweld â'r ddau leoliad am y tro cyntaf.

Bydd dros 100 o feicwyr gorau'r byd yn rasio drwy ganolbarth Cymru o Wrecsam i'r Trallwng ar gymal pedwar (dydd Iau 9 Mehefin), cyn dechrau ar y cymal caled olaf diwrnod yn ddiweddarach a fydd yn dringo i fyny'r Mynydd Du yn Sir Gaerfyrddin (dydd Gwener 10 Mehefin).

Diolch i gefnogaeth mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi cefnogi cymalau'r ras ddwywaith o'r blaen yn 2018 a 2019, bydd Wrecsam a'r Trallwng yn rhan o ras bwysicaf y DU i ferched am y tro cyntaf.

Y tro diwethaf i Wrecsam gynnal digwyddiad beicio elit oedd pan ddaeth cymal agoriadol Taith Prydain y dynion i ben yn y dref yn 2015 a bydd y cymal eleni yn siwr o chwarae ei ran yng nghais Wrecsam i gael ei goroni'n Ddinas Diwylliant y DU 2025.

Bydd cymal pedwar yn dechrau o ganol Wrecsam ar Stryd Caer cyn symud wrth ymyl y ffin rhwng Lloegr a Chymru, gan symud drwy Riwabon a theithio ochr yn ochr â Thraphont Ddŵr y Waun ac yn agos i Gastell y Waun, cyn teithio i Bowys yn Rhydycroesau.

Bydd y llwybr 148 cilometr (92 milltir) yn mynd ar hyd cylch bythgofiadwy, mewn cyfeiriad gwrthglocwedd o amgylch cronfa ddŵr Llyn Efyrnwy ger Llanwddyn wrth iddi ymdroelli tuag at y llinell derfyn ychydig o bellter i ffwrdd o Afon Hafren yng nghanol y Trallwng ar Stryd Lydan.

Mae Powys wedi croesawu cymal olaf Taith y Merched unwaith o'r blaen yn 2019 yn Llanfair-ym-Muallt, tra bod Taith Prydain y Dynion wedi ymweld â'r sir ar chwe achlysur rhwng 2010 a 2016.

Dywedodd Dr Caroline Turner, Prif Weithredwr Cyngor Sir Powys:"Mae gallu croesawu Taith Prydain y Merched yn ôl eto yn newyddion gwych i'r sir.  Mae'r digwyddiad yn rhoi cyfle ffantastig i Bowys arddangos y sir i gynulleidfa deledu genedlaethol a rhyngwladol.  Bydd y cymal yn rhoi hwb ariannol i'r economi leol sydd fawr ei angen ac rydym yn gobeithio y bydd trigolion ac ymwelwyr yn mynd allan i gefnogi'r ras."

Ychwanegodd y Cynghorydd Alison Davies, Maer y Trallwng: "Mae hwn yn hwb cyffrous i'r dref. Bydd yn gyfle gwych i bobl y Trallwng groesawu athletwyr Rhyngwladol a Chenedlaethol a llawer o ymwelwyr i'r dref.

"Mae'n gyffrous i ni gael y cyfle i fod yn rhan o'r digwyddiad cenedlaethol hwn ac mae'n hwb i economi'r Trallwng yn dilyn dwy flynedd anodd iawn, ac rydym yn ei groesawu'n fawr.

"Gall trefnwyr, cystadleuwyr a dilynwyr y digwyddiad hwn fod yn sicr o groeso cynnes iawn yn y Trallwng."

Bydd beicwyr yn wynebu prawf Cymreig anodd arall diwrnod yn ddiweddarach, y tro hwn yn Sir Gaerfyrddin, sydd wedi dod yn nodwedd reolaidd ar lwybrau Taith Prydain y Dynion a Merched ers 2018.

Bydd beicwyr yn dechrau o lefel y môr ym Mharc Gwledig Pen-bre, un o brif atyniadau ymwelwyr Cymru, cyn troi tua'r gogledd i Lanymddyfri drwy Bontyberem, Nantgaredig a Brechfa.  Bydd cymal pump yn cynnwys y darn dringo anoddaf o unrhyw gymal yn y ras eleni (2,065m), gyda 104.5 cilometr (65 milltir) o rasio, gan orffen ar gopa'r Mynydd Du ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Dyma fydd yr ail dro i'r ras ddod i ben ar frig mynydd yn hanes Taith y Merched.  Yn mesur 7.2 cilometr o hyd, mae graddiant y Mynydd Due ar gyfartaledd yn 5.3% ac yn cynyddu i 21% mewn mannau. Defnyddiwyd yn flaenorol yn ystod cymal olaf y ras yn 2019; y pryd hynny y beiciwr o Brydain Hannah Barnes (Tîm Beicio Pro Uno-X) dringodd y cyflymaf mewn amser o 20:50.

Dywedodd Mick Bennett, cyfarwyddwr y ras Taith y Merched:"Bydd cymalau Taith y Merched eleni yng Nghymru yn allweddol wrth benderfynu ein pencampwr nesaf.  Bydd y ddau yn cynnig prawf go iawn i feicwyr gorau'r byd, gyda'r rasio gwefreiddiol yn cael ei wneud yng nghanol rhai o'r golygfeydd mwyaf trawiadol sydd gan y Deyrnas Unedig i'w gynnig.  Hoffwn ddiolch i'n holl randdeiliaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, am eu cefnogaeth barhaus i'r Daith Merched."

Bydd Taith y Merched yn cynnwys pob un o'r 14 Tim Merched y Byd UCI yn y gynghrair uchaf, gydag 18 tîm a 108 o feicwyr yn cystadlu yn y ras, sef y maes mwyaf yn yr wyth mlynedd o hanes y ras.