Toglo gwelededd dewislen symudol

Cronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

Mae Cyngor Sir Powys ar y cyd â Phartneriaeth Natur Powys, wedi cael dyraniad o arian oddi wrth Leoedd Lleol ar Gyfer Natur Llywodraeth Cymru.

Grantiau Natur ar gyfer Lleoedd Lleol

Bydd ceisiadau ar gyfer ein Grantiau Cymunedol Bywyd Gwyllt ar gyfer Mannau Lleol ar gyfer Natur 2025-26 yn agor yn fuan. Bydd Canllawiau a Ffurflen Gais ar gael gan ddefnyddio'r dolenni ar waelod y dudalen hon pan fydd y broses cais yn agor.

Os oes gennych brosiect mewn golwg, e-bostiwch biodiversity@powys.gov.uk gyda'ch syniad.

Nod Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur yw creu natur ar eich stepen drws, ymgysylltu cymunedau i greu a gwella lleoedd ar gyfer natur.

Rhaglen o'r gwaelod i fyny yw Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur sy'n canolbwyntio ar ardaloedd trefol, yn enwedig ardaloedd difreintiedig a/neu'r ardaloedd hynny sydd â mynediad cyfyngedig at natur.

Mae Partneriaeth Natur Powys yn cynnig cyfle i bartneriaid, sefydliadau a gwasanaethau i wneud bid am arian grant i greu lleoedd lleol ar gyfer natur mewn cymunedau.

Mae'r gronfa'n agored i:

  • grwpiau cymunedol
  • sefydliadau gwirfoddol
  • elusennau a sefydliadau trydydd sector eraill
  • sefydliadau'r sector cyhoeddus gan gynnwys Cynghorau Tref a Chymuned

Rhaid i brosiectau gynnwys o leiaf un o'r canlynol:

  • Cynyddu plannu blodau gwyllt
  • Cynyddu cyfleoedd tyfu bwyd cymunedol
  • Cynyddu plannu coed lleol
  • Creu coetiroedd dwys ac amrywiol yr un maint â chwrt tenis
  • Creu cynefinoedd mewn gorsafoedd trenau a chyfnewidfeydd trafnidiaeth
  • Annog blodau gwyllt a gwella bioamrywiaeth drwy newid arferion torri glaswellt
  • Creu gerddi synhwyraidd
  • Lleihau'r defnydd o blaladdwyr
  • Cynyddu mynediad y cyhoedd at ddŵr yfed
  • Adfer neu greu perllannau cymunedol.

Grant ad-dalu yw hwn felly caiff yr arian ei ryddhau ar ôl i chi wneud taliadau i'ch prosiect. Bydd agen i'ch sefydliad allu talu am flaen gostau cyflawni'r prosiect gyda'r ad-daliad yn dod atoch ymhen 30 dydd.

Ymhlith y prosiectau a ariannwyd yn flaenorol mae:

  • gwella mynediad at natur
  • creu cynefin peillio, dolydd blodau gwyllt a gerddi bywyd gwyllt
  • rheoli blodau gwyllt ar leiniau ymyl y ffordd
  • cartrefi i anifeiliaid (gwesty chwilod, blychau adar ac ystlumod)
  • perllannau, tyfu bwyd cymunedol
  • ysgolion coedwig

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu