Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rhybudd: Mae cymorth ar gael ar gyfer costau olew gwresogi sy'n codi.

Cronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

Mae cyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur ar gael trwy Brosiectau Bywyd Gwyllt Cymunedol a Natur y Gymdogaeth.

 

Grantiau Bywyd Gwyllt Cymunedol

Mae Grantiau Bywyd Gwyllt Cymunedol ar gael i gefnogi prosiectau gan sefydliadau lleol a grwpiau cymunedol i gynnal a gwella bioamrywiaeth er mwyn creu natur ar garreg eich drws, gan ymgysylltu â chymunedau i greu a gwella lleoedd ar gyfer natur.

 

Cymdogaeth Natur

Natur y Gymdogaeth yw ein cynllun prosiect bach i ddarparu eitemau penodol i wella gwerth bioamrywiaeth man cymunedol. Mae hyn wedi'i gyfyngu i gartrefi planhigion ac anifeiliaid hyd at gyfanswm gwerth o £1000.

Gweler y wybodaeth am y ddau isod

 

  • Grantiau Bywyd Gwyllt Cymunedol

Mae'r ceisiadau ar gyfer ein Grant Cymunedol Bywyd Gwyllt ar gyfer Mannau Lleol ar gyfer Natur 2026-27 nawr ar gael.  Mae Nodiadau Cyfarwyddyd a'r Ffurflen Gais ar gael ar waelod y dudalen hon.

Os oes gennych brosiect mewn golwg, e-bostiwch biodiversity@powys.gov.uk gyda'ch syniad.

Nod Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur yw creu natur ar eich stepen drws, ymgysylltu cymunedau i greu a gwella lleoedd ar gyfer natur.

Rhaglen o'r gwaelod i fyny yw Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur sy'n canolbwyntio ar ardaloedd trefol, yn enwedig ardaloedd difreintiedig a/neu'r ardaloedd hynny sydd â mynediad cyfyngedig at natur.

Mae Partneriaeth Natur Powys yn cynnig cyfle i bartneriaid, sefydliadau a gwasanaethau i wneud bid am arian grant i greu lleoedd lleol ar gyfer natur mewn cymunedau.

Mae'r gronfa'n agored i:

  • grwpiau cymunedol
  • sefydliadau gwirfoddol
  • elusennau a sefydliadau trydydd sector eraill
  • sefydliadau'r sector cyhoeddus gan gynnwys Cynghorau Tref a Chymuned

Rhaid i brosiectau gynnwys o leiaf un o'r canlynol:

  • Cynyddu plannu blodau gwyllt
  • Cynyddu cyfleoedd tyfu bwyd cymunedol
  • Cynyddu plannu coed lleol
  • Creu coetiroedd dwys ac amrywiol yr un maint â chwrt tenis
  • Creu cynefinoedd mewn gorsafoedd trenau a chyfnewidfeydd trafnidiaeth
  • Annog blodau gwyllt a gwella bioamrywiaeth drwy newid arferion torri glaswellt
  • Creu gerddi synhwyraidd
  • Lleihau'r defnydd o blaladdwyr
  • Cynyddu mynediad y cyhoedd at ddŵr yfed
  • Adfer neu greu perllannau cymunedol.

Grant ad-dalu yw hwn felly caiff yr arian ei ryddhau ar ôl i chi wneud taliadau i'ch prosiect. Bydd agen i'ch sefydliad allu talu am flaen gostau cyflawni'r prosiect gyda'r ad-daliad yn dod atoch ymhen 30 dydd.

Ymhlith y prosiectau a ariannwyd yn flaenorol mae:

  • gwella mynediad at natur
  • creu cynefin peillio, dolydd blodau gwyllt a gerddi bywyd gwyllt
  • rheoli blodau gwyllt ar leiniau ymyl y ffordd
  • cartrefi i anifeiliaid (gwesty chwilod, blychau adar ac ystlumod)
  • perllannau, tyfu bwyd cymunedol
  • ysgolion coedwig

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd 5pm ddydd Llun 20 Ebrill 2026

 

  • Cymdogaeth Natur

Gellir darparu eitemau hyd at gyfanswm gwerth o £1000 i chi, i'w defnyddio yn eich man cymunedol, i annog natur a gwella bioamrywiaeth mewn mannau sydd ar gael i'r cyhoedd. Mae eitemau wedi'u cyfyngu i'r rhai yn y ffurflen gais isod.

  • Planhigion, yn cynnwys coed, bylbiau, hadau, plygiau, planhigion peillio ac eitemau cysylltiedig ee. stanciau coed, compost di-fawn
  • Cartrefi anifeiliaid, yn cynnwys blychau adar, gwestai pryfed, blychau gaeafgysgu, blychau ystlumod ac eitemau cysylltiedig.

 

Mae'r Canllawiau a'r Cais i'w gweld isod.

Grantiau Bywyd Gwyllt Cymunedol 2026/27 - Nodiadau Cyfarwyddyd (PDF, 268 KB)

Grantiau Bywyd Gwyllt Cymunedol 2026/27 - Ffurflen Gais (Word doc, 883 KB)

Ffurflen gais Natur y Gymdogaeth 2026/27 (Word doc, 885 KB)

 

Rhannwch y dudalen hon