Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Trigolion yn cael eu hannog i ddefnyddio eu pleidlais yn yr etholiadau lleol

Image of a person walking into a polling station

30 April 2022

Image of a person walking into a polling station
Bydd pleidleiswyr ledled y sir yn bwrw eu pleidlais ddydd Iau 5 Mai, i gael dweud eu dweud ar restr newydd o gynghorwyr Cyngor Sir Powys.

Bydd pleidleiswyr o bob rhan o Bowys yn penderfynu pa gynghorwyr fydd yn eu cynrychioli nhw a'u hardal leol dros y pum mlynedd nesaf.  Bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor o 7am tan 10pm ddydd Iau 5 Mai.

Gall ymgeiswyr gynrychioli plaid wleidyddol neu gallant fod yn annibynnol ond bydd pob ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei ethol gan eu cymuned leol.

O'r 60 ward etholiadol, ymleddir etholiad mewn 53 ward a fydd yn cynnwys 180 o ymgeiswyr.

Gyda llai nag wythnos i fynd, neges Swyddog Canlyniadau Powys yw 'defnyddiwch eich pleidlais ddydd Iau 5 Mai'.

Dywedodd Dr Caroline Turner, Swyddog Canlyniadau Powys: "Ar ddydd Iau, 5ed o Fai, bydd pleidleiswyr yn cael y cyfle i bleidleisio dros yr unigolyn y maen nhw'n ystyried i fod yr ymgeisydd gorau i gynrychioli eu cymuned ar y cyngor dros y pum mlynedd nesaf.

"Mae pwy ry'ch chi'n pleidleisio drosto yn hollol ryngoch chi a'r papur pleidleisio ond, os ydych yn gymwys i gymryd rhan yn yr etholiadau hyn, byddwn yn eich annog i ddefnyddio'ch pleidlais fel bod eich cyngor yn cynrychioli dymuniadau eich cymuned.

"Mae'r cyngor yn darparu gwasanaethau pwysig fel gofal cymdeithasol, addysg, cynnal a chadw priffyrdd a chasgliadau biniau felly mae'n bwysig eich bod yn dweud eich dweud ar bwy yw eich cynrychiolydd ar y cyngor drwy ddefnyddio'ch hawl i bleidleisio."

Bydd y cyfrif o etholiadau Cyngor Sir Powys yn cael ei gynnal y diwrnod canlynol sef ddydd Gwener 6 Mai ar Faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd.

I weld y canlyniadau ewch i Canlyniadau'r Etholiad neu dilynwch gyfrif Twitter (@cspowys) y cyngor ar ddiwrnod y cyfrif.