Toglo gwelededd dewislen symudol

Digwyddiadau recriwtio i swyddi gofal a chymorth

Image of lady drinking tea

09/05/2022

Image of lady drinking tea
 Mae Cyngor Sir Powys yn cynnig cyfleoedd gwaith a fydd yn helpu pobl Powys fyw'n well yn y lle o'u dewis gan wneud beth sy'n bwysig iddyn nhw.

Dewch draw un o'r digwyddiadau recriwtio ar draws y sir i wybod mwy am weithio yn ein timoedd ailalluogi.

Mae'r rhain yn gyfle i'r rhai sydd â diddordeb yn y gwaith i weld pa swyddi sydd ar gael ac i ofyn cwestiynau i'r tîm cyfeillgar.  Bydd ein staff hefyd wrth law i arwain a rhoi cyngor ar sut i lenwi ffurflen gais.

Rydym yn croesawu unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa gofalu i ddod draw, p'un ai'n dechrau yn eich gyrfa, â phrofiad neu'n chwilio am her newydd.

Bydd y digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal fel a ganlyn:

  • Y Gaer, Aberhonddu ar 18 Mai rhwng 10am - 1pm 
  • The Hive, Llandrindod  ar 8 Mehefin rhwng 2pm - 5pm 
  • Neuadd Les, Ystradgynlais ar 15 Mehefin rhwng 10 am - 1pm 
  • Canolfan Waith, Y Drenewydd ar 22 Mehefin rhwng 2pm - 5pm 
  • Canolfan Waith Y Trallwng ar 29 Mehefin rhwng 10am - 12.30pm 

Bydd cyfle hefyd i gael sgwrs â'r timoedd Cysylltu Bywydau a Maethu ac i glywed mwy am weithio yn ein cartrefi preswyl i blant yn Aberhonddu ac Ystradgynlais.

Dywedodd Ali Bulman, Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl a Datblygu'r Sefydliad: "Trwy weithio i Gyngor Sir Powys, byddwch yn derbyn pob cymorth i wneud gwaith o'ch bodd, yn ogystal â sesiynau goruchwylio rheolaidd a chefnogaeth barhaus.  Os ydych am symud ymlaen yn eich gyrfa, rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd gwych i hyfforddi a datblygu, heb anghofio cyflog gwych, gwyliau blynyddol a chynllun pensiwn llywodraeth leol.

"Rydym yn chwilio am unigolion angerddol sydd am wneud gwahaniaeth i fywydau trigolion Powys.

"Gallwch helpu mewn sawl ffordd, o ymuno â'r timoedd ailalluogi a helpu trigolion i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, i gynnig seibiant byr neu gymorth tymor hir i blant a phobl ifanc trwy leoliadau Cysylltu Bywydau a Maethu.

"Os oes gennych ddiddordeb mewn gwaith fyddai'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, gallwn gynnig hynny i chi yma ym Mhowys."

Galwch heibio un o'r digwyddiadau recriwtio yn eich ardal chi, gallwch archebu lle nawr ar https://forms.office.com/r/fBYaeevM9n

I weld ein swyddi gwag ar hyn o bryd, ewch i: Swyddi a hyfforddiant