Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

iPads ar gael i'w benthyg o lyfrgelloedd Powys

Image of Tilly Boscott, Digital Senior Library Assistant, using an iPad in front of a wall of iPads

11 Mai 2022

Image of Tilly Boscott, Digital Senior Library Assistant, using an iPad in front of a wall of iPads
Gall trigolion Powys fenthyg iPad am ddim o'u llyfrgell leol, diolch i gefnogaeth gan Gronfa'r Economi Gylchol Llywodraeth Cymru.

Mae dyfeisiau ar gael i aelodau dros 18 oed gwasanaeth llyfrgelloedd Powys.  Rhaid archebu'r dyfeisiau ymlaen llaw.

Gall unrhyw un sy'n byw, gweithio, neu'n astudio ym Mhowys ymuno â'r llyfrgell am ddim.

Mae'r iPads, sy'n barod ar gyfer y rhyngrwyd, ar gael i'w benthyg am bedair wythnos ar y tro. Mae cerdyn sim gan bob iPad gyda lwfans data symudol i unrhyw un sydd heb gysylltiad Wi-Fi gartref.

Dywedodd Nina Davies, Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol: "Rydym yn falch o fod yn helpu preswylwyr i fynd ar-lein a gwella eu sgiliau digidol, drwy fenthyca'r dyfeisiau hyn am ddim.

"Mae hwn yn gyfle gwych i unrhyw un sydd angen mynd ar-lein, boed hynny ar gyfer gwaith neu astudio neu hyd yn oed i wneud rhywfaint o siopa ar-lein, i wneud hynny heb y gost o brynu eu hoffer eu hunain.

"I unrhyw un sydd heb ddefnyddio iPad neu ddyfais symudol o'r blaen, bydd ein llyfrgellwyr wrth law i'ch rhoi ar ben ffordd.  Byddant hefyd ar gael ar y ffôn neu wyneb yn wyneb drwy gydol yr amser y byddwch gyda'r ddyfais ar fenthyg."

Dywedodd Tilly Boscott, Uwch Gynorthwy-ydd Llyfrgell Ddigidol, "Gall diffyg mynediad digidol arwain at demilad o unigedd a gall fod yn rhwystr i gael mynediad at wasanaethau a gwybodaeth. Mae'n teimlo'n anhygoel i allu darparu'r dechnoleg hon i unrhyw un sydd ei hangen, ac i goncro'r rhaniad digidol, un ddyfais ar y tro."

I gael rhagor o wybodaeth, neu i ofyn am iPad, cysylltwch â'ch llyfrgell leol yn bersonol, ffoniwch Linell y Llyfrgell ar 01874 612394 neu e-bostiwch library@powys.gov.uk.

Mae'r iPads yn rhan o brosiect Powys Ddigidol, sy'n ceisio rhoi mwy o ddewis i breswylwyr ynghylch sut, pryd ac ym mha ffordd y maen nhw'n rhyngweithio â'r cyngor. Mae hefyd yn rhan o Raglen Drawsnewid y cyngor i wireddu dyheadau cynllun gwella corfforaethol Gweledigaeth 2025.