Toglo gwelededd dewislen symudol

Bioamrywiaeth Lleiniau Ymyl y Ffordd

Mae tua 5500km o ffyrdd ag arwyneb ym Mhowys ac mae'r ymylon ffyrdd cysylltiedig yn gynefin gwerthfawr i lawer o rywogaethau.

Yn aml, gweddillion y cynefinoedd a oedd unwaith yn eu hamgylchynu yw ymylon ffyrdd, ac maent yn cynnal bron i hanner rhywogaethau dolydd blodau gwyllt y DU, sy'n ffaith dyngedfennol, gan fod y DU wedi colli 97% o'i dolydd ers y 1930au.

Mae sawl rhywogaeth planhigion prin a rhai sydd dan fygythiad i'w gweld ar y lleiniau yma, ac mae'r rhain yn darparu bwyd i bryfed peillio a phryfed eraill. Mae hyn yn ei dro yn darparu bwyd i adar ac anifeiliaid eraill.  Nid yw pob ymyl ffordd yn gynefin dolydd, mae rhai ohonynt yn cynnal cynefinoedd coetiroedd, gwrychoedd a rhostiroedd. Mae ymylon ffyrdd hefyd yn helpu i wella lles pobl, gan ganiatáu i bobl ymgysylltu â natur yn ystod eu cymudo dyddiol.

Iddyn Nhw

Amcan yr ymgyrch 'Iddyn Nhw' yw codi ymwybyddiaeth y cyhoedd am fanteision torri gwair llai aml. Wedi'i dorri'n rheolaidd, efallai y bydd glaswellt wedi ei dorri yn fyr yn edrych yn daclus - ond nid yw'n fawr o fudd i fywyd gwyllt. Bydd llai o dorri gwair ar ymylon ffyrdd a glaswellt ar safleoedd amwynderau yn caniatáu i laswellt a blodau gwyllt dyfu. Mae hyn yn creu cynefin gwell ar eu cyfer 'Nhw': infertebratau, adar, mamaliaid bach, amffibiaid ac ymlusgiaid.

Amcan yr ymgyrch 'Iddyn Nhw' Llywodraeth Cymru yw codi ymwybyddiaeth y cyhoedd am fanteision torri gwair llai aml a chreu bioamrywiaeth iach.

Rheoli Lleiniau Ymyl y Ffordd

Fel yr Awdurdod Priffyrdd, mae Cyngor Sir Powys yn gyfrifol am reoli lleiniau ymyl y ffordd er mwyn sicrhau bod y ffyrdd yn parhau i fod ar agor ac yn ddiogel i'w defnyddio. Rydym yn ceisio cydbwyso diogelwch defnyddwyr priffyrdd â gwerth bioamrywiaeth ymylon ffyrdd. Mae gennym hefyd ddyletswydd statudol i gynnal a gwella bioamrywiaeth o dan Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Cefnffyrdd

Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am ffyrdd preifat ac fe'u rheolir gan Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA). Mae Cyngor Sir Powys yn gweithredu fel contractwr ar gyfer NMWTRA ac felly'n rheoli ymylon y cefnffyrdd yn unol â chyfarwyddyd NMWTRA. Os ydych yn pryderu am ymylon unrhyw gefnffordd, rhowch wybod i NMWTRA.

Ffyrdd Sirol

Mae gennym ddwy gyfundrefn ar gyfer gwaith cynnal a chadw ar ffyrdd sirol:

  • Mewn ardaloedd trefol (ardaloedd â therfynau cyflymder) rydym yn torri'r gwaith dair gwaith. Mae ein rheolaeth ymylon trefol wedi'i newid yn ddiweddar fel bod llawer mwy o'r ymyl yn cael ei adael heb ei dorri ar y toriadau cyntaf a'r ail gyda dim ond un rhenc yn cael ei thorri, ac eithrio at ddibenion gwelededd. Mae hyn yn caniatáu i'r rhywogaethau planhigion flodeuo, gan ddarparu bwyd a chynefin i bryfed peillio a rhywogaethau eraill.
  • Mewn ardaloedd gwledig (terfyn cyflymder cenedlaethol) rydym yn torri'r rhenc unwaith y flwyddyn yn unig, ac eithrio at ddibenion gwelededd.

Gwarchodfeydd Natur Ymyl y FFordd

Ar ben y cyfundrefnau torri ymyl uchod, mae gennym hefyd dros 100 o Warchodfeydd Natur Ymyl y  Ffordd (RVNR) sy'n cael eu rheoli ar wahân. Darn o ymyl ffordd y nodwyd bod iddo werth arbennig i fioamrywiaeth yw RVNR. Gall yr ymylon hyn gefnogi rhywogaethau a warchodir a rhywogaethau sy'n bwysig yn genedlaethol a/neu'n lleol neu gefnogi amrywiaeth eang o rywogaethau planhigion. Caiff yr ymylon hyn eu rheoli wedyn mewn ffordd benodol, wedi'u llywio gan y tair Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt ym Mhowys, gyda'r nod o warchod a gwella'r rhywogaethau o ddiddordeb. 

Gwrychoedd ar Ymyl y Ffordd

Cyfrifoldeb y tirfeddiannwr neu'r meddiannydd yw torri gwrychoedd sy'n bodoli eisoes. Mae hyn yn cynnwys gwrychoedd wrth ochr priffordd gyhoeddus. Gall Cyngor Sir Powys dorri rhai gwrychoedd i gynnal mynediad ar hyd priffordd, os nad yw'r tirfeddiannwr eisoes wedi gwneud hyn.  Nid yw hyn fel arfer yn berthnasol ond i'r tyfiant gwrychoedd sy'n ymestyn i'r briffordd, neu lle mae'r gwrych yn rhwystro arwyddion ffyrdd. Er mwyn diogelu adar sy'n nythu (a chydymffurfio â'r gyfraith) rydym yn argymell nad yw gwrychoedd yn cael eu torri rhwng mis Mawrth a mis Awst. Ewch i wefan yr RSPB i gael rhagor o wybodaeth am dorri gwrychoedd a'r gyfraith.  

Dilyn canllawiau arfer gorau

Mae hyn yn cynnwys gwneud cais am grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru sydd wedi ein galluogi i brynu peiriannau priodol i ddechrau defnyddio dulliau rheoli torri a chasglu ar rai o'n lleiniau glaswelltir, a fydd yn annog rhywogaethau blodau gwyllt i dyfu (sylwch y bydd yn cymryd amser i flodau gwyllt ailymddangos yn naturiol ar yr ymylon). Byddwn yn defnyddio'r toriadau, a elwir yn 'sgil-gynhyrchion' (arisings), i greu pentyrrau cynefin ar yr ymylon.

Heriau

Nid yw'n bosibl creu pentyrrau cynefin ar bob ymyl ffordd, yn enwedig ar ymylon ffyrdd trefol, felly byddai'n rhaid inni gael gwared ar y sgil-gynhyrchion o'r ymylon hyn. Er bod arian wedi'i arbed drwy leihau amlder torri ymylon dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae cludo a gwaredu'r sgil-gynhyrchion yn briodol yn gallu arwain at gostau sylweddol. O ganlyniad, nid ydym ar hyn o bryd yn gallu defnyddio dulliau rheoli torri a chasglu ar bob ymyl ffordd. Byddai angen adnoddau ychwanegol i ddatblygu cynllun ymarferol a chost-effeithiol i waredu'r sgil-gynhyrchion ac rydym yn gweithio gyda Phartneriaeth Natur Powys i ddod o hyd i ateb i hyn.

Sut alla' i helpu?

Mae nifer cynyddol o grwpiau cymunedol, Cynghorau Tref a Chymuned, a sefydliadau lleol eraill yn cysylltu â Chyngor Sir Powys i ofyn a allant helpu i wella bioamrywiaeth ar eu cyrion trefol ac rydym wedi bod yn eu hannog i wneud hynny. Mae llawer o grwpiau'n gwneud hyn drwy gribinio'r ymyl â rhaca a gwaredu'r sgil-gynhyrchion ar ôl i'r ymylon gael eu torri, gan fonitro'r gwelliannau mewn bioamrywiaeth a blodau gwyllt. 

Mae rhai cymunedau hefyd wedi mynd â hyn gam ymhellach, gan gymryd rheolaeth dros eu hymylon a/neu hau blodau gwyllt brodorol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn helpu i reoli eich ymylon lleol, beth am gysylltu â'ch Cyngor Tref neu Gymuned yn gyntaf i sicrhau y byddant yn eich cefnogi. Yna anfonwch e-bost at y Swyddog Partneriaeth Natur Powys gyda'ch cynnig. Sylwch fod blodau gwyllt yn aml yn ailymddangos ar ymylon yn naturiol pan gânt gyfle i ledaenu. Fodd bynnag, os ydych yn bwriadu cyflymu'r broses hon, yna byddwn ond yn cefnogi cynigion a fydd yn defnyddio hadau blodau gwyllt brodorol, plygiau neu wair gwyrdd. Dylai'r rhain hefyd fod o ffynonellau lleol, lle bo modd. Mae'n rhaid i ni ystyried iechyd a diogelwch felly efallai na fyddwn yn caniatáu i chi weithio ar rai ymylon penodol.

Cymunedau sy'n Caru Gwenyn

Er bod ymylon ffyrdd yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gefnogi bioamrywiaeth, mae'n bwysig cydnabod na allant ar eu pennau eu hunain, wneud yn iawn am golli dolydd blodau gwyllt a chynefinoedd glaswelltir sy'n llawn blodau ar raddfa fawr. Mae gan bawb ran i'w chwarae wrth adfer a chreu cynefin addas ychwanegol ar eu tir eu hunain. Gallwch hefyd gefnogi pryfed peillio yn eich ardal drwy ddod yn 'Gymuned Sy'n Caru Gwenyn'.  Am fwy o wybodaeth: https://www.biodiversitywales.org.uk/Caru-Gwenyn.