Pythefnos Gofal Maeth
16/05/2022
Ei nod yw taflu goleuni ar y nifer o wahanol ffyrdd y mae pobl yn y gymuned faethu wedi cefnogi ei gilydd yn ystod pandemig Covid-19 - ac i dynnu sylw at yr angen am ragor o ofalwyr maeth ymroddedig.
Mae Cyngor Sir Powys yn un o 22 o dimau'r awdurdodau lleol yng Nghymru sy'n cydweithio fel Maethu Cymru, rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu di-elw.
Mae Maethu Cymru am annog mwy o bobl i ddod yn ofalwyr maeth ar gyfer eu hawdurdod lleol fel y gall plant aros yn eu hardal leol, yn agos at eu ffrindiau a'u teulu ac yn eu hysgol. Gall hyn helpu plant a phobl ifanc i gadw eu hymdeimlad o hunaniaeth yn ystod cyfnod anodd.
Drwy gydol mis Mai, bydd tîm maethu cyfeillgar Cyngor Sir Powys allan o gwmpas y lle yn barod i sgwrsio â chi yn y mannau canlynol:
- Y Gaer, Aberhonddu ddydd Mercher 18 Mai o 10am i 1pm
- Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd ddydd Sadwrn 20 Mai a dydd Sul 21 Mai
- Tesco, Y Trallwng ddydd Gwener 27 Mai o 10am i 4pm
Dywedodd Jan Coles, Pennaeth Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Powys: "Yn sicr, mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn heriol ond rydym mor ddiolchgar i'n gofalwyr maeth ym Mhowys, a ledled Cymru, sydd wedi agor eu drysau i blant ac wedi rhoi lle diogel iddynt yn ystod pandemig Covid.
"Drwy faethu gyda'ch awdurdod lleol, byddwch yn helpu plant i aros yn eu cymuned, gyda'r amgylchoedd, yr ysgol, y ffrindiau a'r gweithgareddau y maen nhw'n gyfarwydd â hwy. Mae'n rhoi cyswllt iddynt ac yn adeiladu sefydlogrwydd a hyder. "Byddwn yn annog pobl nid yn unig i faethu, ond i faethu gyda ni, eich awdurdod lleol, sy'n rhan o Faethu Cymru, sefydliad nid-er-elw sy'n gyfrifol am y plant sydd dan ein gofal."
Os oes gennych ddiddordeb, codwch y ffôn heddiw neu gallwch gael rhagor o wybodaeth yma: https://powys.maethucymru.llyw.cymru/ 0800 223 0627