Allai eich neuadd bentref neu ganolfan gymuned elwa o fuddsoddiad digidol?
17 Mai 2020
Mae hyd at £4,000 ar gael i ganolfannau cymuned, neuaddau pentref a neuaddau tref y sir, i'w wario ar offer i'w ddefnyddio i gynnal cyfarfodydd hybrid neu ehangu eu defnydd. Y cyfan sydd ei angen yw 20 y cant o arian cyfatebol gan y ganolfan ar gyfer costau llawn yr offer neu'r gwasanaeth.
Mae'r grantiau hyn yn cael eu cynnig trwy Arwain sef rhaglen LEADER y sir, gyda'r nod o annog trigolion, busnesau a chymunedau i gynnig atebion arloesol i fynd i'r afael â heriau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. *
Ymysg y gwelliannau y gellid eu hariannu fyddai offer fideogynadledda i'r ganolfan, setiau teledu SMART, llwyfannau digidol, cyfarpar fideoalwadau, gliniaduron a llechi, offer sain (meicroffonau a seinyddion), systemau dolen sain neu hyfforddiant ar sut i osod a defnyddio unrhyw offer a brynir.
Dywedodd Diane Reynolds, Pennaeth Economi a Gwasanaethau Digidol, Cyngor Sir Powys: "O ganlyniad i'r pandemig, mae mannau cymunedol a nifer o grwpiau gwirfoddol neu elusennol wedi gorfod addasu i ffyrdd newydd o weithio a mwy o ddefnydd o dechnoleg ddigidol er mwyn cysylltu â phobl. I'w helpu gyda hyn, mae'r rhaglen LEADER ym Mhowys wedi agor cronfa benodol i helpu gyda'u gwaith digidol a sut i gyflwyno gwasanaethau."
Dylai unrhyw un sydd â diddordeb yng nghynllun Arwain, Cronfa Lleoliadau Cymunedol ar gyfer Offer, gyflwyno cais mor fuan â phosibl gan fod rhaid gwario unrhyw arian grant erbyn 15 Mehefin 2022.
Am ffurflen gais, neu fanylion pellach, cysylltwch â'r Tîm RDP dros e-bost: rdp@powys.gov.uk neu siarad â Chynorthwyydd y Rhaglen RDP, Kat Rohts: 01597 826940.
NODIADAU: * Mae'r rhaglen hon wedi derbyn arian trwy Raglen Datblygu Gwledig - Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.