Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Hyfforddiant Gofal Cymdeithasol - Deddf Galluedd Meddyliol

Gan 'Bond Solon' dros Teams

Mae Deddf Galluedd Meddyliol yn ddarn hynod bwysig o ddeddfwriaeth, gan ei fod o bosib yn gadael i eraill wneud penderfyniadau ar ran rhywun arall.   Mae'n hanfodol felly, wrth ddefnyddio'r Ddeddf, y fframwaith gyfreithiol a'u Codau Ymarfer, eu bod yn cael eu deall a'u rhoi ar waith yn gywir.

Daeth y Ddeddf i rym yn 2007 a dylai fod yn ganolog i waith beunyddiol gofal cymdeithasol.  Fodd bynnag, nid dyma'r achos yn aml iawn, ac mae nifer o weithwyr proffesiynol yn dal heb y sgiliau a'r hyder i roi'r egwyddorion ar waith o fewn sefyllfaoedd beunyddiol, yn arbennig o fewn achosion cymhleth.

Bydd y cwrs undydd, rhyngweithiol hwn yn rhoi dealltwriaeth glir a thrylwyr ar fframwaith y Ddeddf, gyda'r gallu i'w roi ar waith o fewn achosion cymhleth.  Byddwch yn trafod penderfyniadau cymhleth ac yn edrych ar gyfraith achosion presennol a pherthnasol.  Bydd gennych y gallu i roi'r egwyddorion ar waith yn fedrus o fewn sefyllfaoedd beunyddiol ac i safonau arferion gorau.

Trwy drafodaethau dan arweiniad yr hyfforddwr, ac astudiaethau achosion ymarferol, byddwch yn trafod y problemau sy'n wynebu gweithwyr proffesiynol yn y maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol a chael cipolwg ar benderfyniadau anodd a sensitif, ac yn bwysicach oll, sut i'w trin.

Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn deall y Ddeddf yn glir, ac yn gallu rhoi'r Ddeddf ar waith mewn amryw o sefyllfaoedd i safonau arferion gorau.

Amcanion dysgu:

  • rhoi pum prif egwyddor Deddf Galluedd Meddyliol ar waith
  • cynnal asesiadau cymhleth o fewn y Ddeddf i arferion gorau, yn unolâchyfraith achosion presennol.
  • llenwi rhestr wirio 'budd pennaf' i arferion gorau, yn unolâchyfraith achosion presennol.
  • adnabod rolau atwrneiod, dirprwyon, IMCA, Gwarcheidwad Cyhoeddus a'r Llys Gwarchod.
  • deall penderfyniadau o flaen llaw i wrthod triniaeth.
  • dehongli a rhoi'r fframwaith gyfreithiol ar waith yn gywir ar ataliaeth a chyfyngu ar ryddid.

Dyddiadau

Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd.

Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses

Cyswllt

Eich sylwadau am ein tudalennau