Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

'Bydd cynnal y Daith Merched yn cyflwyno hwb economaidd sylweddol i Bowys'

Broad Street Welshpool

18 Mai 2022

Broad Street Welshpool
Disgwylir y bydd ymweliad cyntaf erioed y Daith Merched i'r Trallwng ar ddydd Iau 9 Mehefin yn arwain at nifer o fanteision i'r ardal, gan gynnwys hwb economaidd.

Y tro diwethaf i Bowys gynnal diwedd cam y Daith Merched, yn Llanfair-ym-Muallt yn 2019, cyfrifwyd ei fod wedi cyflwyno hwb o £650,000 i economi'r sir. *

Fe fydd hefyd yn cynnig y cyfle i drigolion Powys weld camp o safon fyd-eang yn fyw, gyda'r seiclwyr yn gwneud eu ffordd o Wrecsam i'r Trallwng, trwy Lyn Efyrnwy a Threfaldwyn.

Er mwyn cynnal y ras yn ddiogel, fe fydd Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Powys yn cymeradwyo cau'r ffordd dros dro, ar hyd y Stryd Fawr, Stryd Lydan, Stryd Hafren, Stryd yr Eglwys a Stryd Aberriw, yn Y Trallwng, o 4am tan 5pm ar ddiwrnod y ras, i wneud darpariaeth i ganiatáu mwy na 100 o seiclwyr sy'n cyrraedd ar gyflymder uchel a miloedd o wylwyr a ddisgwylir i ddod i'w gwylio hwy.

Dywedodd Nigel Brinn, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyngor Sir Powys dros yr Economi a'r Amgylchedd: "Bydd cynnal y Daith Merched yn cyflwyno hwb economaidd sylweddol i Bowys, ac rydym yn gobeithio y bydd o fudd penodol i'r sector lletygarwch a effeithiwyd mor wael gan y pandemig COVID-19. Rydym yn sylweddoli y bydd cau'r ffyrdd yn achosi ychydig o anghyfleustra ac fe fyddem yn gofyn i'r trigolion a'r busnesau hynny a effeithir i fod yn amyneddgar - fe fyddwn yn cysylltu gyda llawer ohonoch yn uniongyrchol ac fe wnawn y cyfan y gallwn i ostwng unrhyw aflonyddwch.

"Trwy gynnal y ras Taith Byd Merched UCI hon, rydym yn credu y gallwn ysbrydoli mwy o'n trigolion i ddilyn ffordd iachus ac actif o fyw. Ac yn gobeithio y bydd y seiclwyr cyflym a gwrol hyn yn helpu i annog mwy o'n hieuenctid i godi oddi ar eu seddau ac eistedd ar sedd beic!" 

Bydd Pedwerydd Cam Taith Merched 2022 yn dod i mewn i'r Trallwng ar hyd Ffordd Hafren, gydag adrannau y tu ôl i faricedau ar gyfer gwylwyr ar hyd Stryd Hafren hyd at y llinell derfyn ar y Stryd Lydan. Bydd rhannau o'r Stryd Fawr, Stryd Aberriw a Stryd yr Eglwys yn cael eu cau i draffig hefyd er mwyn sicrhau diogelwch pawb sydd ynghlwm â'r digwyddiad.

Gellir gweld llwybr cyflawn y Pedwerydd Cam ar wefan y Daith Merched:  https://www.womenstour.co.uk/stages/stage-4/

Bydd ffyrdd ym Mhowys, y tu allan i ganol tref Y Trallwng, ar gau 20 munud cyn i'r seiclwyr gyrraedd ac yna byddant yn cael eu hailagor wedi iddynt basio trwy'r dref.

Bydd y Daith Merched yn cynnwys yr holl 14 cynghrair uchaf o Dimau Merched UCI y Byd, gyda 18 o dimau a 108 o seiclwyr yn cystadlu yn y ras, gan nodi'r maes mwyaf yn hanes wyth mlynedd y ras.

LLUN: Golygfa o Stryd Lydan Y Trallwng lle daw'r ras i ben.

NODYN: * Arweiniodd cynnal Pumed Cam y Daith Merched yn 2019 at greu gwariant gan ymwelwyr o fwy na £1.1 miliwn gan gyflwyno hwb ychwanegu gwerth gros o £645,454 i economi'r sir, yn ôl ymchwil a gomisiynwyd gan drefnwyr y ras, SweetSpot Group.