Dweud eich dweud ar ddatblygu hybiau cymunedol yn llyfrgelloedd Powys
23 Mai 2022
Mae'r prosiect ymgysylltu'n cael ei lansio heddiw (dydd Llun 23 Mai) ac mae'n cynnwys dau arolwg:
- Bydd un yn asesu pa mor hawdd neu anodd ydyw i drigolion gyrraedd gwasanaethau a gwybodaeth allweddol ym Mhowys a sut fyddai'n bosibl gwella hynny trwy greu hybiau digidol mewn llyfrgelloedd lle byddai help wrth law.
- Bydd y llall yn mesur y diddordeb sydd mewn datblygu mannau gwaith o fewn llyfrgelloedd i'r rhai hynny sydd efallai'n gweithio o adref neu'n ystyried sefydlu busnes bach.
Dywedodd Nina Davies, Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol: "Diolch i nawdd o Gronfa Adfywio Cymunedol y DU, gallwn gynnal ymchwil i wybod mwy am sut y mae trigolion Powys yn defnyddio gwasanaethau ar hyn o bryd, megis cyngor a chymorth neu wasanaethau ariannol, a fyddai sianeli digidol yn help a beth sy'n rhwystro pobl rhag defnyddio gwasanaethau ar-lein.
"Rydym hefyd yn ystyried y posibilrwydd o greu lle ar gyfer rhannu mannau gwaith gan ddefnyddio cyfleusterau lleol lle'n bosibl, a bydd y prosiect hwn yn helpu i fesur y galw am fannau gwaith o'r fath ar draws Powys."
I gymryd rhan yn y prosiect hwn, ewch i hyb ymgysylltu ar-lein y cyngor ar: www.dweudeichdweudpowys.cymru/hybiau-yn-llyfrgelloedd-powys
Gallwch ofyn am gopiau papur o'r arolwg trwy'r gwasanaeth llyfrgelloedd. I gael copi papur, ffoniwch 01874 612394 neu galwch yn eich llyfrgell leol.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn atebion yw dydd Iau 30 Mehefin 2022.