Ysgrifennu Adroddiad
Cyflwynir gan Bond Solon
Cynulleidfa Darged: Timau Gweithwyr Cymdeithasol /Darparwyr/Gofalwyr
Rhagoriaeth wrth Ysgrifennu Datganiad / Adroddiad (1 dydd)
Yn aml, mae'n ofynnol bod gweithwyr cymdeithasol proffesiynol yn ysgrifennu eu datganiadau / adroddiadau eu hunain neu'n cynorthwyo tystion eraill i wneud hynny. Yn aml, bydd tystiolaeth ysgrifenedig rhagorol yn golygu na fydd angen i dyst rhoi tystiolaeth. Yn aml, mae datganiadau / adroddiadau yn cael eu hysgrifennu mewn fformat neu arddull sy'n eu gwneud yn anodd eu darllen, fel bod effaith y dystiolaeth yn mynd ar goll. Mae datganiad / adroddiad da yn helpu i inswleiddio'r tyst a'r sefydliad rhag ymosodiadau estynedig am eu tystiolaeth wrth gael eu croesholi.
NODAU'R CWRS
Mae'r cwrs yn cynorthwyo cynrychiolwyr i ddeall beth sy'n ofynnol mewn datganiadau / adroddiadau. Byddan nhw'n ystyried cynnwys datganiadau / adroddiadau drwy edrych ar ffynhonnell a phwysau'r dystiolaeth sydd i'w cynnwys a dysgu i wahaniaethu rhwng ffeithiau, goblygiad a safbwynt. Byddant hefyd yn ystyried yr arddull a fformat y datganiadau / adroddiadau drwy gyfeirio at sampl o ddatganiadau / adroddiadau yn unol â darpariaethau Rhan 14 y COPR a gaiff ei fwyhau gan Gyfarwyddyd Ymarfer 14. Gellir addasu'r samplau a'r modelau i weddu maes a chyd-destun gofynnol y sefydliad. Bydd cynrychiolwyr yn adolygu amrywiaeth o ddatganiadau / adroddiadau a defnyddio meini prawf asesu gwrthrychol i asesu eu tystiolaeth ysgrifenedig a derbyn adborth am dystiolaeth ysgrifenedig i wella eu sgiliau tystiolaeth ysgrifenedig.
PWYNTIAU DYSGU ALLWEDDOL
- Sut i gasglu tystiolaeth yn fwy effeithiol drwy wybod sut y caiff ei chynnwys mewn tystiolaeth ysgrifenedig
- Sut i lunio cyfeiriadau at gofnodion a nodiadau fel ffynhonnell gychwynnol tystiolaeth y cafodd y datganiad / adroddiad ei ysgrifennu
- Sut i ddynodi'r materion a'r ffeithiau, a ffynhonnell a phwysau'r ffeithiau hynny
- Datblygu dadansoddiad clir a pherswadiol
- Defnyddio gosodiad, fformat ac arddull briodol
- Defnyddio tystiolaeth ysgrifenedig fel modd o setlo achosion neu fel sail i roi tystiolaeth lafar
- Deall y ffurfioldebau gan gynnwys, os ydy'n berthnasol, y rheolau sy'n llywodraethu datganiadau / adroddiadau
Dyddiadau:
- 7 Medi 2022 9.30am - 5.00pm
Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd.
Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses