Toglo gwelededd dewislen symudol

Ailgylchu fel arfer dros benwythnos y jiwbilî

An image of Union Jack bunting

23 Mai 2022

An image of Union Jack bunting
Ni fydd gwyliau banc y Jiwbilî'n effeithio o gwbl ar wasanaeth ailgylchu a chasglu sbwriel, gyda'r gwaith yn mynd yn ei flaen fel arfer ar ddydd Iau 2ail a dydd Gwener 3ydd Mehefin.

P'un ai'n trefnu parti stryd jiwbilî gyda chymdogion neu'n bwriadu treulio'r penwythnos hir yn tacluso'r ardd neu'n gwneud ychydig o waith DIY, bydd trigolion Powys yn falch o wybod y gallant barhau i ailgylchu eu gwastraff fel arfer.

Dywedodd Nigel Brinn, Cyfarwyddwr Gweithredol yr Economi a'r Amgylchedd: "Rydym yn bwriadu casglu sbwriel a deunydd ailgylchu dros wyliau banc y jiwbilî, felly os yw eich diwrnod casglu'n syrthio ar un ai dydd Iau 2il neu ddydd Gwener 3ydd Mehefin, gallwch adael eich biniau a'ch bocsys allan fel arfer.

"Hefyd, bydd ein Canolfannau Ailgylchu'n agor fel arfer ac rydym am ddiolch yn fawr i'r criwiau a'n staff diwyd a fydd yn colli allan ar y dathliadau er mwyn sicrhau y gallwn barhau i ailgylchu ein gwastraff dros y penwythnos hir."

Dyma atgoffa trigolion i roi eu biniau a'u bocsys allan erbyn 7.30 a.m. ar eu diwrnod casglu arferol ac i fynd ar-lein i weld oriau agor y Canolfannau Ailgylchu (Mae Canolfannau Ailgylchu Aberhonddu a'r Drenewydd ar gau dydd Iau a dydd Gwener fel arfer): Biniau, sbwriel ac ailgylchu