Cyhoeddi Cabinet newydd
26 Mai 2022
Cyhoeddodd y Cynghorydd Gibson-Watt, a etholwyd yn Arweinydd Gweithredol yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ddydd Iau (26 Mai), y bydd gan y Cabinet newydd 11 aelod yn cwmpasu 10 maes portffolio.
Bydd y Cabinet yn cynnwys saith o Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru a phedwar aelod Llafur Cymru ar ôl i'r ddwy blaid ddod i gytundeb ar bartneriaeth cynnydd.
Mae'r canlynol yn aelodau o'r Cabinet newydd:
- Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Agored a Thryloyw: Y Cynghorydd James Gibson-Watt
- Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach: Y Cynghorydd Matthew Dorrance
- Aelod Cabinet ar gyfer Bowys Fwy Llewyrchus: Y Cynghorydd David Selby
- Yr Aelod Cabinet ar gyfer Gyllid a Thrawsnewid Corfforaethol: Y Cynghorydd David Thomas
- Aelod Cabinet ar gyfer Powys Ofalgar: Y Cynghorydd Sian Cox
- Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Diogel: Y Cynghorydd Richard Church
- Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: Y Cynghorydd Pete Roberts
- Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach: Y Cynghorydd Jackie Charlton
- Aelod Cabinet ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol: Y Cynghorydd Susan McNicholas / Y Cynghorydd Sandra Davies (rhannu swydd)
- Aelod Cabinet ar gyfer Cysylltu Powys: Y Cynghorydd Jake Berriman
Dywedodd yr arweinydd y Cynghorydd James Gibson-Watt: "Mae hwn yn adeg hanesyddol i'r sir. Yn yr etholiadau yn gynharach y mis hwn gwelwyd newid enfawr i gyfansoddiad Cyngor Sir Powys ar ôl i'r etholwyr fynegi awydd am newid.
"Er bod gwahaniaethau gwleidyddol rhwng y ddwy blaid, mae ein cytundeb partneriaeth blaengar yn darparu sylfaen gadarn sy'n adeiladu dyfodol cryfach, tecach a gwyrddach i Bowys.
"Rwy'n llawn cyffro i ymaflyd yn yr heriau sydd o'n blaenau ac i ddechrau cyflawni dros bobl Powys."
Ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd y Cynghorydd Matthew Dorrance: "Rwy'n falch iawn y bydd y ddwy ochr yn gweithio gyda'i gilydd i greu consensws a chytundeb ynghylch gweledigaeth a rennir ar gyfer y dyfodol lle mae ein cymunedau'n ffynnu ac mae'r Cyngor yn gweithio i deuluoedd ledled Powys.
"Ry'n ni'n awyddus i adeiladu dyfodol cryfach, tecach a gwyrddach i Bowys ac mae ein cytundeb partneriaeth blaengar yn nodi map ffordd i'r hyn yr ydym am ei gyflawni.
"Mae'r her yn enfawr, ond rydym yn barod i wasanaethu."