Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Llety hunanddarpar a Threthi Busnes

O fewn y system dreth leol, mae eiddo sy'n cael eu defnyddio er mwyn darparu llety hunanddarpar (er enghraifft llety gwyliau) yn cael eu trin fel busnesau ac yn talu trethi annomestig yn hytrach na threth y cyngor, yn amodol ar ddiwallu rhai meini prawf o fewn y ddeddfwriaeth.

Mae Adran 66 (2BB) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (a fewnosodwyd gan Orchymyn Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2010 a'i ddiwygio gan Orchymyn Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2016) yn gosod y meini prawf ar gyfer eiddo sy'n cael ei ddefnyddio i ddarparu llety hunanddarpar i'w ddosbarthu'n annomestig at ddibenion trethi lleol.

Y meini prawf ar (hyd at 31 Mawrth 2023) oedd fel a ganlyn: 

  • yn y 12 mis cyn asesu, mae wedi bod yn bosibl rhentu'r eiddo'n fasnachol fel llety hunanddarpar am gyfnodau byr hyd at gyfanswm o 140 diwrnodneu fwy; ac
  • yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd yr eiddo wedi'i rentu'n fasnachol am gyfnodau byr hyd at gyfanswm o 70 diwrnod o leiaf.

Lle nad oedd y meini prawf hyn wedi'u diwallu, bydd yr eiddo'n cael ei ddosbarthu'n eiddo domestig ac felly rhaid talu treth y cyngor.  Cewch wybodaeth ar dreth y cyngor ar eiddo ar feddiennir yn gyfnodol ar https://cy.powys.gov.uk/article/3078/Premiymau-Treth-y-Cyngor

Rhwng 25 Awst a 17 Tachwedd 2021, bu Llywodraeth Cymru'n ymgynghori ar gael premiymau treth y cyngor ar ail-gartrefi ac eiddo gwag tymor hir, ynghyd â'r meini prawf presennol ar gyfer llety hunanddarpar ac amodau cymhwysedd ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach i lety hunanddarpar.  Am fwy o fanylion ar yr ymgynghoriad, ewch i: https://llyw.cymru/trethi-lleol-ar-gyfer-ail-gartrefi-llety-hunanddarpar

Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu diwygio'r ddeddfwriaeth i bennu trothwy newydd o eiddo a gafodd eu rhentu'n go iawn a'r rhai sydd ar gael i'w rhentu er mwyn cael eu hystyried yn fusnesau ac yn talu trethi annomestig yn hytrach na threth y cyngor.

Mae'r Gorchymyn yn diwygio Adran 66 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.  Mae'r darpariaethau'n diwygio is-adran (2BB) trwy osod ffigurau newydd sy'n cyfateb i naill ai:

  • yn y 12 mis cyn asesu, mae wedi bod yn bosibl rhentu'r eiddo'n fasnachol fel llety hunanddarpar am gyfnodau byr hyd at gyfanswm o 252 diwrnodneu fwy; ac
  • yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd yr eiddo wedi'i rentu'n fasnachol am gyfnodau byr hyd at gyfanswm o 182 diwrnod o leiaf.

Bydd y meini prawf newydd yn dod i rym o 1 Ebrill 2023  er bod y rheolau cymhwysedd newydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2023, at ddibenion asesu bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn edrych ar wybodaeth gosod eiddo o'r flwyddyn weithredu flaenorol. Asiantaeth y Swyddfa Brisio fydd yn penderfynu a yw'r meini prawf uchod wedi'u diwallu neu beidio, a nhw fydd yn rhoi gwybod i'r Awdurdod Lleol a yw'r eiddo'n cael ei ystyried yn eiddo annomestig neu ddomestig, at ddibenion trethi lleol.

Am fanylion llawn y newidiadau arfaethedig ewch i: https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-crynodeb-or-ymatebion-ymgynghoriad-ar-drethi-lleol-ar-gyfer-ail-gartrefi

Am fanylion pellach ar sut mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio'n trin llety gwyliau, ewch i: Business Rates: Self-catering and holiday let accommodation- GOV.UK (www.gov.uk)