Toglo gwelededd dewislen symudol

Premiymau Treth y Cyngor

Yn unol ag adran 12a a 12b Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a fewnosodwyd gan Adran 139 Deddf Tai (Cymru) 2014, mae'r Cyngor wedi penderfynu codi premiymau Treth y Cyngor fel a ganlyn:

Premiwm- Eiddo gwag hirdymor

Yng nghyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2022 penderfynwyd amrywio'r premiwm a chodi premiwm Treth y Cyngor o 100%ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/2024.  Bydd y penderfyniad hwn mewn grym am bob blwyddyn ariannol os na chaiff ei amrywio neu ddirymu. 

Yng nghyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2016, penderfynwyd codi premiwm Treth y Cyngor o 50% ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017/2018.  Bydd y penderfyniad hwn mewn grym am bob blwyddyn ariannol os na chaiff ei amrywio neu ddirymu. 

Premiwm- Eiddo a feddiennir yn gyfnodol

Yng nghyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 4 Chwefror 2022, penderfynwyd amrywio'r premiwm a chodi premiwm Treth y Cyngor o 75% ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/2024. Bydd y penderfyniad hwn mewn grym am bob blwyddyn ariannol os na chaiff ei amrywio neu ddirymu. 

Yng nghyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2016, penderfynwyd codi premiwm Treth y Cyngor o 50% ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017/2018.  Bydd y penderfyniad hwn mewn grym am bob blwyddyn ariannol os na chaiff ei amrywio neu ddirymu. 

Ar 2 Mawrth 2022,  cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganlyniad yr ymgynghoriad ar drethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanarlwyo.  Roedd yr ymgynghoriad ar y lefel uchaf y gall awdurdodau lleol bennu premiymau treth y cyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor, bydd deddfwriaeth newydd, cyflwyno, a fydd yn weithredol o 1 Ebrill 2023, yn caniatáu i'r premiwm gynyddu hyd at 300%.  Mae manylion llawn canlyniadau'r ymgynghoriad a'r newidiadau arfaethedig sydd i'w cyflwyno gan Lywodraeth Cymru i'w gweld yn y https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-crynodeb-or-ymatebion-ymgynghoriad-ar-drethi-lleol-ar-gyfer-ail-gartrefi

Eithriadau i'r Premiymau Treth y Cyngor ar Eiddo Tymor Hir ac Eiddo a feddiannir o bryd i'w gilydd. 

Mae'r Rheoliadau Treth y Cyngor (Eithriadau rhag Symiau Uwch) (Cymru) 2015 yn manylu pryd na ellir codi premiwm ar annedd sy'n cydymffurfio ag eithriad.  Bydd awdurdod lleol yn rhoi sylw i'r eithriadau hyn cyn penderfynu gweithredu premiwm.

Mae'r rheoliadau'n rhagnodi saith dosbarth o anheddau wedi'u heithrio. Mae dosbarthiadau 1, 2, 3 a 4 yn berthnasol i eiddo gwag tymor hir ac eiddo a feddiannir o bryd i'w gilydd. Mae dosbarthiadau 5, 6, a 7 yn berthnasol i eiddo a feddiannir o bryd i'w gilydd yn unig. Amlinellir y dosbarthiadau eiddo isod:

  • Dosbarth 1        Eiddo sy'n cael eu marchnata fel rhai ar werth - gyda therfyn amser o flwyddyn
  • Dosbarth 2        Eiddo sy'n cael eu marchnata fel rhai ar osod - gyda therfyn amser o flwyddyn
  • Dosbarth 3        Anecsau sy'n ffurfio rhan neu sy'n cael eu trin fel rhan o'r brif annedd.
  • Dosbarth 4        Eiddo a fyddai'n unig gartref neu'n brif gartref rhywun heblaw ei fod yn aros yn llety'r Lluoedd Arfog
  • Dosbarth 5        Safleoedd carafannau ac angorfeydd cychod
  • Dosbarth 6        Mae'r amod cynllunio yn gwahardd unrhyw un rhag byw yn yr eiddo trwy gydol y flwyddyn neu'n barhaol, neu'n pennu defnydd penodol fel llety gwyliau yn unig
  • Dosbarth 7        Eiddo cysylltiedig â gwaith

Am ragor o ganllawiau ar Dreth y Cyngor ar eiddo gwag ac ail gartrefi cliciwch yma Treth y Cyngor ar dai gwag ac ail gartrefi | LLYW. CYMRU

Eiddo sy'n wag am amser hir

Eiddo â phobl yn ei ddefnyddio o bryd i'w gilydd