Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun Hyfforddiant Uwch am Ddim i Feicwyr Modur

Image of a motorbike and enhanced rider scheme logo

31 Mai 2022

Image of a motorbike and enhanced rider scheme logo
Gwahoddir beicwyr modur i ymuno â chwrs hyfforddi uwch am ddim i feicwyr i helpu i wella eu sgiliau gyrru beic a diogelwch ffyrdd Powys.

Mae tîm Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Sir Powys yn darparu'r cyrsiau hyn yn rhad ac am ddim i unrhyw feicwyr modur sy'n byw ym Mhowys neu sy'n defnyddio ffyrdd Powys, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru.

Mae Cynllun Hyfforddiant Uwch Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) i Feicwyr yr yn addas ar gyfer deiliaid trwyddedau beiciau modur llawn sydd am wella eu sgiliau gyrru beic, i'r rhai sy'n dychwelyd i yrru beic modur ar ôl seibiant, beicwyr sydd newydd lwyddo yn eu prawf, pobl sy'n uwchraddio i feic modur mwy pwerus yn ogystal â/neu'r rhai sydd am wirio safon eu marchogaeth.

Mae'r cwrs yn cynnwys sesiwn theori fer ar-lein a sesiwn ymarferol hanner diwrnod ar y ffordd (ar benwythnos) gyda hyfforddwr profiadol. Nid oes prawf, ond asesir sgiliau gyrru beic, a rhoddir hyfforddiant priodol i bob cyfranogwr a fydd, gobeithio, yn derbyn tystysgrif cymhwysedd DVSA ar ôl cwblhau'r cynllun.

Y dyddiadau ar gyfer cyrsiau sydd i ddod yw:

Mehefin 2022
Theori ar-lein - 16 Mehefin
Teithiau ar y ffordd - 18 a 19 Mehefin

Gorffennaf 2022
Theori ar-lein - 14 Gorffennaf
Teithiau ar y ffordd - 16 a 17 Gorffennaf

Mae niferoedd y lleoedd ar y cyrsiau rhad ac am ddim hyn yn gyfyngedig ac yn llenwi'n gyflym. Cysylltwch â ni i gadw eich lleoedd cyn gynted â phosibl: 01597 826924 or miranda.capecchi1@powys.gov.uk

Gwelwch y fideo hwn i gael rhagor o wybodaeth am Gynllun Hyfforddiant Uwch y DVSA i Yrwyr Beiciau Modur: https://youtu.be/9OjLHO-ASmk