Toglo gwelededd dewislen symudol

Annog bywyd gwyllt nôl i ymyl ffyrdd

Image of wildflowers growing on a Powys roadside verge

1 Mehefin 2022

Image of wildflowers growing on a Powys roadside verge
Gyda 127 o Warchodfeydd Natur Lleiniau Ymyl Ffyrdd ar rwydwaith ffyrdd y sir, mae ymylon ffyrdd yn mwynhau gwledd o fioamrywiaeth ar hyn o bryd.

Mae Cyngor Sir Powys a chontractwyr yn gweithio'n galed i warchod y bywyd gwyllt sy'n byw ar ymylon ffyrdd y sir.  Mae nifer o fentrau ar waith ar hyn o bryd i beidio torri darnau cyfan o ymylon ffyrdd neu â chynlluniau rheoli unigol a fydd o fudd i'r rhywogaethau sydd ar y safle hwnnw.

Ymysg y camau i warchod yr amrywiaeth o fywyd gwyllt ar ymylon ffyrdd y sir yw amseru pryd y bydd y gwair yn cael ei dorri er mwyn gwarchod tymhorau nythu a bridio sawl math o anifeiliaid ac adar, a gadael i'r blodau hadu ac i infertebratau megis pili pala, orffen eu cylch bywyd.  Er mwyn gwella gwaith rheoli bywyd gwyllt, mae Cyngor Sir Powys wedi prynu peiriannau torri a chasglu, diolch i nawdd gan Llywodraeth Cymru trwy Gynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, a fydd yn annog mwy o flodau gwyllt i dyfu.

Mae ymylon ffyrdd trefol (ardaloedd o fewn terfyn cyflymder 30 m.y.a. ar ffyrdd y sir) yn cael eu torri dair gwaith y flwyddyn.  Addaswyd hyn yn ddiweddar fel na fydd gymaint o'r ymylon yn cael eu torri'r tro cyntaf a'r eildro, a dim ond torri un ystod i warchod bywyd gwyllt.  Unwaith y flwyddyn bydd ymylon ffyrdd gwledig yn cael eu torri, heblaw bod angen gwneud am resymau diogelwch.

"Mae cynnal a chadw ymylon ffyrdd yn gydbwysedd rhwng sicrhau diogelwch defnyddwyr ffyrdd a llwybrau a gwarchod bywyd gwyllt," esboniodd y Pennaeth Priffyrdd, Trefnidiaeth ac Ailgylchu. "Ond, gyda gwaith rheoli gofalus, mae'n bosibl gwneud y ddau.

"Ry'n ni'n awyddus i wneud hyd yn oed mwy o newidiadau i'r ffordd rydym wedi bod yn rheoli ymylon ffyrdd trefol.  Trwy weithio gyda grwpiau lleol a chynghorau tref a chymuned, gallwn nodi pa rannau i beidio'u torri a gweld cynnydd blynyddol yn nifer  yr ardaloedd penodol ar gyfer gwarchod bioamrywiaeth yn y sir.

"Mae tua 5500 km o ffyrdd â wyneb caled ym Mhowys ac rydym yn gweithio'n galed i nodi'r ardaloedd hynny ar hyd ein rhwydwaith sylweddol o ffyrdd lle gallwn reoli ymylon ffyrdd mewn ffordd sy'n gwarchod bioamrywiaeth ac a fydd yn elwa amgylcheddau lleol."

Am fwy o wybodaeth ar sut y mae'r cyngor yn rheoli bioamrywiaeth ar ymylon ffyrdd, ewch i: Bioamrywiaeth Lleiniau Ymyl y Ffordd