Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Canolbwyntio ar safonau diogelwch bwyd - dyna'r neges i fusnesau bwyd Powys

Image of jar of foods

8 Mehefin 2022

Image of jar of foods
Mae Tîm Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir Powys yn atgoffa busnesau bwyd y sir i ganolbwyntio ar safonau diogelwch bwyd a bod y tîm yma i helpu busnesau i wella safonau a chadw defnyddwyr yn ddiogel.

Mae swyddogion diogelwch bwyd yn arolygu busnesau bwyd i wirio eu bod yn dilyn cyfreithiau hylendid a diogelwch bwyd fel bod y bwyd yn ddiogel i'w fwyta. Maent yn rhoi sgôr rhwng sero (angen gwella ar frys) i bump (safonau hylendid da iawn) i fusnesau.

Mae arolygiadau yn cwmpasu hylendid a diogelwch bwyd. Mae'r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn helpu defnyddwyr i ddewis ble i fwyta allan neu brynu bwyd drwy roi gwybodaeth glir iddynt am safonau hylendid y busnes.

Yn genedlaethol, amcangyfrifir bod tua 2.4 miliwn o achosion o salwch a gludir gan fwyd y flwyddyn, ac mae bacteria gwenwyn bwyd cyffredin yn cynnwys Campylobacter a Salmonela. Mae dwy filiwn o bobl yn y DU yn byw ag alergeddau bwyd; mae gan 600,000 o bobl clefyd seliag, ac mae eraill yn byw ag anoddefiadau bwyd.

Gall busnesau bwyd leihau risgiau diogelwch bwyd drwy fesurau glanhau, rheoli plâu, rheoli diogelwch bwyd a mynd i'r afael â materion amnewid bwyd a all beri risg i bobl ag alergeddau ac anoddefiadau, a phobl eraill sy'n agored i niwed.

Meddai'r Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Diogel:    "Mae diogelwch bwyd da yn gwneud gwell synnwyr busnes. Wrth i ni ddychwelyd i gynnal busnesau ar ôl COVID, mae'n bwysicach fyth ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar safonau diogelwch bwyd ym Mhowys.

"Mae gennym ni wybodaeth i gefnogi busnesau bwyd i wella lle bo angen. Rydyn ni yma i gynnal safonau diogelwch bwyd, ac yn atgoffa busnesau y gall arolygydd diogelwch bwyd ymweld unrhyw bryd."

Meddai Nathan Barnhouse Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru: "Mae llawer o fusnesau bwyd eisoes yn bodloni safonau hylendid da, a gwyddom fod hyn yn bwysig i ddefnyddwyr sydd am deimlo'n hyderus na fydd y bwyd y maent yn ei ddewis yn eu gwneud yn sâl.

"Gall materion diogelwch bwyd fel gwenwyn bwyd ac achosion o alergenau heb eu datgan, achosi dioddefaint diangen i unigolion, yn ogystal ag effeithio ar eu teuluoedd. Rydym yn gweithio ar y cyd â Chyngor Sir Powys sy'n cefnogi busnesau ac yn eu helpu i ddeall y gofynion rheoleiddio."

Rhaid i fusnesau bwyd Powys gofrestru gyda Chyngor Sir Powys.

Mae'r Sgôr Hylendid yn dangos pa mor dda y mae'r busnes yn gwneud yn gyffredinol, yn seiliedig ar safonau a ganfyddir adeg yr arolygiad. Mae'r sgoriau ar gael ar-lein ac ar sticeri a gaiff eu harddangos ar safle busnesau.

Mae rhagor o wybodaeth i fusnesau bach am weithdrefnau rheoli diogelwch bwyd a rheoliadau hylendid bwyd ar gael ar food.gov.uk.