Dweud eich dweud ar y Gronfa Ffyniant Cyffredin
![Image of hands holding pound coins with small plant growing](/image/15656/Image-of-hands-holding-pound-coins-with-small-plant-growing/standard.png?m=1654864831343)
10 Mehefin 2022
![Image of hands holding pound coins with small plant growing](/image/15656/Image-of-hands-holding-pound-coins-with-small-plant-growing/gi-responsive__100.png?m=1654864831343)
Rydym yn cynnal arolwg tan 19 Mehefin i roi cyfle i chi ddweud eich dweud am y ffordd orau o wario'r cyllid.
Prif nod yr UKSPF yw meithrin balchder yn ei le a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU. O dan yr amcan hwn, mae tair blaenoriaeth buddsoddi: Cymunedau a Lle; Cefnogi Busnes Lleol; a Phobl a Sgiliau. Mae yna hefyd flaenoriaeth rhifedd oedolion, a elwir yn "Lluosi".
Ar gyfer pob un o'r themâu hyn, mae Llywodraeth y DU wedi awgrymu ffyrdd o ddefnyddio'r cyllid. Gelwir y rhain yn "ymyriadau". Rydyn ni eisiau deall pa rai o'r rhain sydd bwysicaf i chi.
Yn ein harolwg, mae gennych y cyfle i nodi sut y byddech yn gwario'r arian drwy bleidleisio dros eich gweithredoedd blaenoriaeth uchaf.
Bydd yr ymarfer ymgysylltu hwn yn helpu i lunio'r blaenoriaethau lefel uchel ar gyfer datblygu'r cynllun buddsoddi rhanbarthol. Nid yw'n gwahodd nac yn cytuno ar brosiectau ar hyn o bryd. Bydd proses ar wahân ar ôl cytuno ar y cynllun buddsoddi rhanbarthol, a fydd yn gwahodd a chytuno ar brosiectau.
Mae'r arolwg ar gael yma: www.dweudeichdweudpowys.cymru/cronfa-ffyniant-gyffredin a bydd yn cau ddydd Sul 19 Mehefin.