Cyflwyno Caniatâd Cynllunio ar gyfer fflatiau cyngor newydd
16 Mehefin 2022
Cafodd cais cynllunio ar gyfer y fflatiau ar safle hen Dŷ Robert Owen yn Y Drenewydd ei gymeradwyo gan Bwyllgor Cynllunio, Trwyddedu Tacsis a Hawliau Tramwy Cyngor Sir Powys heddiw (Dydd Iau, 16 Mehefin).
Bydd y fflatiau ynni effeithiol yn cael eu rheoli gan Dîm Tai Fforddiadwy'r cyngor. Bydd y cartrefi newydd yn cael eu perchen a'u rheoli gan y cyngor ac yn cael eu dyrannu i geisiadau ar Gofrestr Tai Cyffredin Powys.
Dywedodd y Cyng. Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Rwyf wrth fy modd fod caniatâd cynllunio wedi'i gymeradwyo ar gyfer y datblygiad tai cymdeithasol mawr ei angen hwn.
"Un o flaenoriaethau'r Cabinet newydd yw mynd i'r afael â'r argyfwng dai yn y sir a gellir cyflawni hyn trwy adeiladu tai cyngor o ansawdd uchel. Fe fydd y datblygiad hwn yn Y Drenewydd yn bwysig wrth i ni edrych i ddiwallu'r flaenoriaeth hon."
Fe fydd y cyngor yn edrych i benodi contractwr trwy broses dendro ffurfiol i adeiladu'r datblygiad.