Datgelu logo Ysgol Bro Caereinion
17 Mehefin 2022
Lluniwyd y dyluniad buddugol a fydd yn sail i'r logo a fydd yn cael ei ddefnyddio gan Ysgol Bro Caereinion sy'n agor ym mis Medi, gan Alaw Francis, 14 oed, sy'n mynychu Ysgol Uwchradd Caereinion ar hyn o bryd.
Derbyniwyd dros 200 o ddyluniadau gydag wyth wedi'u gosod ar y rhestr fer gan banel a oedd yn cynnwys dysgwyr, llywodraethwyr, rhieni yn ogystal ag aelodau o Gyfeillion Ysgol Gynradd Llanfair Caereinion a Chymdeithas Rhieni Athrawon Ysgol Uwchradd Caereinion.
Cafodd yr wyth dyluniad eu cyflwyno i Gorff Llywodraethu Dros Dro Ysgol Bro Caereinion a dewiswyd y dyluniad buddugol gan Alaw. Bydd Alaw yn derbyn gwobr ariannol o £200.
Cafodd y saith dyluniad arall ganmoliaeth uchel gan y Corff Llywodraethu Dros Dro, fel a ganlyn:
- Lucy Tomkins (Ysgol Uwchradd Caereinion)
- Catrin Watkin (Ysgol Uwchradd Caereinion)
- Hannah Shirley Smith (Ysgol Uwchradd Caereinion)
- Abigail Shore (Ysgol G.G. Llanfair Caereinion)
- Oscar Bates (Ysgol G.G. Llanfair Caereinion)
- Georgia Harris (Ysgol G.G. Llanfair Caereinion)
- Mya Kyi Millins (Ysgol Cwm Banwy)
Bu Alaw'n gweithio gyda'r dylunydd graffig a chyn disgybl Ysgol Uwchradd Caereinion Ellyw Jones i greu'r fersiwn derfynol.
Mae'r dyluniad syml a modern yn symbol o bontio'r ddwy ysgol, ac Afon Banwy. Mae'n cynrychioli'r undod â'r gymuned ehangach a thirwedd Sir Drefaldwyn. Mae hefyd yn darlunio'r cenedlaethau yn dod at ei gilydd, o'r disgybl ieuengaf i'r hynaf.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Jones, Cadeirydd Corff Llywodraethu Dros Dro Ysgol Bro Caereinion: "Hoffwn ddiolch i bawb a gyflwynodd eu dyluniadau a llongyfarch y disgyblion ac Ellyw am eu creadigrwydd rhagorol. Mae datgelu'r logo hwn yn garreg filltir bwysig tuag at agor Ysgol Bro Caereinion ym mis Medi."
Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu, Cyngor Sir Powys: "Mae'r logo newydd yn bwynt allweddol ar daith creu ysgol newydd, felly llongyfarchiadau i Alaw ar feddwl am ddyluniad syml ond cain sy'n cyfleu ysbryd y dalgylch a da iawn pawb a gyflwynodd eu syniadau eu hunain."
Bydd Ysgol Bro Caereinion yn agor yn swyddogol ym mis Medi 2022 ar safleoedd presennol Ysgol Gynradd Llanfair Caereinion ac Ysgol Uwchradd Caereinion.