Amser ychwanegol i leoliadau sy'n cael eu rhedeg gan y gymuned elwa o fuddsoddiad digidol
20/06/2022
Mae cyllid o hyd at £4,000 ar gael i leoliadau cymunedol y sir i'w wario ar offer y gellid ei ddefnyddio i gynnal cyfarfodydd hybrid, neu ehangu eu defnydd. Y cyfan sydd ei angen yw 20 y cant o arian cyfatebol gan y rhai sy'n rhedeg y lleoliad ar gyfer costau llawn yr offer neu'r gwasanaeth a brynir.
Mae'r grantiau'n cael eu cynnig trwy Arwain, rhaglen LEADER y sir, gyda'r nod o annog trigolion, busnesau a chymunedau i gynnig atebion arloesol i fynd i'r afael â heriau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.*
Ymysg y gwelliannau y gellid eu hariannu byddai offer fideo-gynadledda ar gyfer y lleoliad, setiau teledu SMART, llwyfannau digidol, cyfarpar fideoalwadau, gliniaduron a llechi, offer sain (meicroffonau a seinyddion), systemau dolen sain neu hyfforddiant ar sut i osod a defnyddio unrhyw offer newydd a brynir.
Bydd ceisiadau am offer symudol hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer rhai grwpiau cymunedol, ond bydd angen i chi gysylltu â thîm y CDG i drafod ymhellach cyn cyflwyno'r cais.
Dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus:"Mae pandemig Covid-19 wedi cael effaith enfawr ar ein lleoliadau sy'n cael eu rhedeg gan gymunedau, gyda nhw'n gorfod addasu i ffyrdd newydd o weithio drwy gyflwyno technoleg ddigidol. I'w helpu gyda hyn, mae arian grant gan y rhaglen LEADER ym Mhowys wedi agor i ddarparu gwelliannau i'w presenoldeb digidol a'u ffyrdd o ddarparu gwasanaethau."
Dylai unrhyw un sydd â diddordeb yng nghynllun Arwain, Cronfa Offer ar gyfer Lleoliadau Cymunedol gyflwyno cais cyn gynted â phosibl gan fod rhaid gwario unrhyw arian grant erbyn 15 Gorffennaf 2022.
Am ffurflen gais, neu fanylion pellach, cysylltwch â'r Tîm RDG dros e-bost: rdp@powys.gov.uk neu siarad â Chynorthwyydd y Rhaglen RDP, Kat Rohts: 01597 826940.