Powys yn diolch i'r Lluoedd Arfog
21 Mehefin 2022
Dechreuodd y dathliadau ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog dros y penwythnos gyda sioe filwrol ddydd Sadwrn yn Dering Lines Aberhonddu a byddant yn parhau gyda Gŵyl y Lluoedd Arfog yn y Pafiliwn, Llandrindod ddydd Sul (Mehefin 26).
Dywedodd y Cynghorydd Dorrance, sydd hefyd yn Aelod Cabinet a Hyrwyddwr Powys dros Bartneriaeth y Lluoedd Arfog: "Ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog, mae Cyngor Sir Powys yn cefnogi ac yn diolch i'n Lluoedd Arfog. Rwy'n falch iawn o'n milwyr - eu gwasanaeth hwy yw'r gwasanaeth cyhoeddus eithaf.
"Mae ein Lluoedd Arfog yn chwarae rhan hanfodol yn amddiffyn ein cymunedau gartref a thramor. Dangoswyd eu proffesiynoldeb llwyr gyda'u cefnogaeth ym Mhowys yn ystod y pandemig ac maen nhw'n parhau i chwarae rhan hanfodol yn amddiffyn y DU a'n cynghreiriaid."
Pennawd y llun: (O'r chwith i'r dde) Cyng Matthew Dorrance ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach, Dirprwy Arweinydd, Cyng James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys a Dr Caroline Turner, Prif Weithredwr Cyngor Sir Powys.