Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Egin wyddonwyr a pheirianwyr o Bowys yn ymateb i'r her STEM

Image of pupils taking part in STEM activities

22 Mehefin 2022

Image of pupils taking part in STEM activities
Mae egin wyddonwyr a pheirianwyr mewn wyth ysgol gynradd ar draws Powys wedi cael eu cyflwyno i gyfres o weithgareddau STEM - Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg.

Wedi'i gynllunio i hyrwyddo gweithgynhyrchu a pheirianneg fel gyrfaoedd posibl yn y dyfodol, trefnwyd y diwrnodau gweithgareddau STEM gan Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru (MWMG) gyda chymorth y darparwr hyfforddiant Myrick Training Services, EvaBuild, Paveaways a Compact Orbital Gears. 

Mae'r diwrnodau gweithgareddau yn rhan o Fenter Sgiliau Cymunedol Powys dan arweiniad Cyngor Sir Powys ac wedi'u hariannu drwy Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU.

Bu dros 500 o ddysgwyr o flynyddoedd pump a chwech yn cymryd rhan mewn tri gweithgaredd gwahanol a oedd yn gofyn am ystod o sgiliau STEM.

Cynhaliwyd y diwrnodau gweithgareddau yn Ysgol Gynradd Sirol Crughywel, Ysgol Iau Mount Street, Aberhonddu, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Rhaeadr Gwy, Ysgol Cefnllys, Llandrindod, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Tref-y-clawdd, Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt, Ysgol Gynradd Sirol Penygloddfa, Y Drenewydd ac Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng.

Roedd un o'r gweithgareddau'n cynnwys casglu a sodro eu byrddau cylchedau eu hunain a deall rôl pob cydran.

Adeiladodd y dysgwyr strwythur tetrahedron enfawr hefyd sef pyramid trionglog - gan ddefnyddio hoelbrennau a bandiau elastig yn unig.  Roedd y gweithgaredd yn pwysleisio pwysigrwydd gwaith tîm a gwrando ar gyfarwyddiadau a'u dilyn, yn ogystal ag archwilio llawer o rolau yn y diwydiant adeiladu.

Y gweithgaredd olaf oedd sioe yn seiliedig ar alluoedd Archarwyr, a oedd yn cyflwyno ystod eang o yrfaoedd i ddysgwyr ac yn dangos iddynt fod peirianwyr a gwyddonwyr yn bobl yn union fel nhw. Archwiliodd y gweithgaredd hwn deunyddiau a'u nodweddion, grymoedd - mudiant, disgyrchiant, ynni a golau - gofod a'r amgylchedd.

Siaradodd Myrick Training Services, sydd wedi'i leoli ym Maldwyn, â dysgwyr am rôl bwysig prentisiaethau a'r cyfleoedd gyrfa sydd ar gael iddynt ym Mhowys yn y dyfodol.

Y digwyddiad nesaf sydd wedi'i drefnu gan MWMG yw Diwrnod Creu Roced ar 5 Awst yn Myrick Training Services fel rhan o weithgareddau Haf o Hwyl ym Mhowys.  Nid oes nifer fawr o leoedd ar gael a gallwch gadw lle drwy'r wefan: www.mwmg.org/skills .

"Rydym yn ddiolchgar i'r cwmnïau lleol am ddarparu staff i gefnogi'r diwrnodau gweithgareddau hyn," meddai Ceri Stephens, rheolwr grŵp MWMG. "Mae ymgysylltu â phobl ifanc pan maen nhw'n ifanc i bwysleisio pwysigrwydd STEM yn flaenoriaeth uchel i ni a gobeithio y bydd yn arwain at ffynhonnell o beirianwyr ar gyfer y rhanbarth yn y dyfodol.

"Gydag chymaint o anawsterau recriwtio, mae angen i ni wneud yr hyn a allwn i sicrhau bod pobl ifanc yn ymwybodol o'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt yn lleol a'r dewisiadau gyrfaol enfawr sy'n bodoli o fewn y sector gweithgynhyrchu a pheirianneg."

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu, Cyngor Sir Powys: "Rwy'n falch iawn bod MWMG wedi trefnu'r diwrnodau gweithgareddau STEM hyn ar gyfer dysgwyr ledled Powys.

"Mae gan Bowys hanes o arloesi ym maes peirianneg ac rwy'n gobeithio bod y gweithgareddau cyffrous, ymarferol hyn wedi ennyn diddordeb ein dysgwyr a'u hysbrydoli i ehangu eu gorwelion pan fyddant yn gwneud eu dewisiadau gyrfa yn y blynyddoedd i ddod."

Dywedodd Georgie Bevan, pennaeth addysg Cyngor Sir Powys: "Buodd fy mab a'm merch fy hun i'r digwyddiad hwn ac roedd y ddau ohonynt yn frwdfrydig ac yn gyffrous am y gwahanol brofiadau.

"Fel myfyriwr graddedig mewn peirianneg, rwyf wedi fy nghalonogi gan y cyfleoedd STEM sy'n cael eu cyflwyno i bobl ifanc Powys ac rwy'n edrych ymlaen at eu gweld yn datblygu ymhellach."

Roedd y dysgwyr a'r athrawon yn frwdfrydig iawn am y diwrnodau gweithgareddau. "Roedd yn anhygoel, 11 allan o 10!  Efallai y gallem wneud robotiaid nesaf," oedd dyfarniad un dysgwr, tra dywedodd eraill: "Roedd heddiw'n anhygoel, un o'r digwyddiadau gorau ry'n ni erioed wedi cael" ac "Rwyf wedi ei fwynhau'n fawr ac mae wedi fy ysbrydoli i'w ystyried fel swydd pan fyddaf yn hŷn".

Roedd wedi creu yr un fath o argraff ar yr athrawon, gan ddweud, "Roedd y plant yn canolbwyntio drwy'r dydd ac yn frwdfrydig am gwblhau'r tasgau" a "Roedd hi'n wych gweld gweithgareddau'n hyrwyddo gwaith tîm ac yn hyrwyddo gwyddoniaeth a pheirianneg."