Toglo gwelededd dewislen symudol

Sesiynau Ffitrwydd Teulu Actif i barhau i gael eu darparu ar draws Powys

Freedom Leisure

22 Mehefin 2022

Freedom Leisure
Mae'r ymddiriedolaeth hamdden cwbl ddi-elw, Freedom Leisure, wedi sicrhau cyllid i barhau i ddarparu ei Sesiynau Ffitrwydd Teulu Actif ar draws pump o'i safleoedd ym Mhowys. Gan weithio gyda'u partneriaid Chwaraeon Powys, tîm datblygu chwaraeon Cyngor Sir Powys, mae Freedom Leisure yn edrych ymlaen at barhau i ddarparu rhaglen ymarfer corff i'r teulu cyfan a chyfle i bawb ymarfer gyda'i gilydd yn ystod y sesiynau.

"Rydym yn falch iawn o barhau i weithio gyda'n partneriaid amrywiol ar draws Powys - Timau Chwaraeon Powys, Tîm Nyrsio Ysgol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Tîm Bydwreigiaeth ac Ymwelwyr Iechyd, a'r Gwasanaeth Ieuenctid - sy'n allweddol i gyfeirio cyfranogwyr at ein sesiynau."

Craig Jones, Rheolwr Prosiect Teulu

"Mae'n newyddion cadarnhaol bod Freedom Leisure wedi sicrhau cyllid i'r dyfodol ar gyfer y Cynllun Teuluoedd Actif, sydd eisoes wedi dod â manteision sylweddol i lawer o deuluoedd ym Mhowys. Gan weithio gyda thîm Datblygu Chwaraeon Powys, a phartneriaid eraill, i hyrwyddo gweithgarwch, ymarfer corff a ffordd iach o fyw, sydd bwysicach nag erioed yn dilyn y cyfyngiadau a osodwyd ar drigolion a chymunedau yn ystod pandemig Covid-19. Rwy'n annog teuluoedd i fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael ac i ddod yn "Deulu Actif".

Y Cynghorydd David Selby, Deilydd Portffolio ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus

Bydd y cynllun yn defnyddio hyfforddiant cylchol i hyrwyddo ymarfer corff a ffyrdd iach o fyw, addasu strategaethau ysgogi, a chreu sesiynau ymarfer corff diogel wedi'u targedu at rieni a phlant 8-15 oed.

Bydd hyfforddwyr yn cael eu huwchsgilio mewn Cynllunio Ymwybyddiaeth a Chyflwyno Ymarfer Corff i Blant a fydd yn eu galluogi i ddatblygu dealltwriaeth o reoli ymddygiad, datblygiad plant a meithrin perthnasoedd cryf i ddarparu amgylchedd diogel a phleserus.

"Rwyf wrth fy modd yn addysgu sesiynau Teuluoedd Actif. Mae'n wych gweld y plant yn mwynhau cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol gyda'u rhieni. Mae'r pwyslais ar hwyl ac mae'r manteision iechyd yn deillio o hynny. Mae'r elfennau ffitrwydd bron wedi'u cuddio o fewn y gemau ac mae pawb yn gadael yn teimlo eu bod wedi cael amser da."

Natalie Hawkins, Hyfforddwr Ffitrwydd Teulu Actif

Mae'r cynllun ar gael tan fis Mawrth 2023 yn y lleoliadau Freedom Leisure Powys canlynol:

  • Canolfan Hamdden y Flash (Y Trallwng). Ffôn: 01938 555952
  • Canolfan Chwaraeon Llandrindod. Ffôn: 01597 824249
  • Canolfan Hamdden Maldwyn (Y Drenewydd). Ffôn: 01686 628771
  • Canolfan Chwaraeon Ystradgynlais. Ffôn: 01639 844854
  • Canolfan Hamdden Aberhonddu. Ffôn: 01874 623677

"Mae'r sesiynau'n gyffrous ac yn hwyl, bob amser wedi'u hesbonio'n dda, yn drefnus, ac yn cael eu cynnal o fewn terfynau ffitrwydd pawb. Rydym yn hoffi sut rydym i i gyd yn gallu ymarfer gyda'n gilydd ac yn dymuno y byddai mwy o sesiynau fel hyn ar gael yn ystod yr wythnos."

Eleri Thomas, Mam i 2 o Blant sy'n Mynychu

Cysylltwch â'ch safle Freedom Leisure agosaf o'r rhai a nodwyd uchod i gael mwy o fanylion ac i ddysgu sut i ymuno â'r sesiynau hyn.