Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Ysgolion cynradd Llanbedr a Llanfihangel Rhydithon

Image of a primary school classroom

23 Mehefin 2022

Image of a primary school classroom
Gallai cynlluniau i gau dwy ysgol gynradd fechan gael eu gohirio am 12 mis, os bydd Cabinet newydd Cyngor Sir Powys yn derbyn yr argymhellion sy'n cael eu cyflwyno.

Roedd ysgolion cynradd Llanbedr a Llanfihangel Rhydithon i fod i gau ddiwedd mis Awst. Fodd bynnag, mae Cabinet y cyngor wedi penderfynu ailedrych ar y cynigion.

Gofynnir i'r Cabinet ohirio gweithredu'r cynnig i gau Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanbedr am 12 mis hyd 31 Awst 2023 a dechrau adolygiad o'r holl ysgolion yn nalgylch Crughywel.

Gofynnir i'r Cabinet hefyd oedi cyn gweithredu'r cynnig i gau Ysgol Gynradd Gymunedol Llanfihangel Rhydithon am 12 mis hyd 31 Awst 2023. Argymhellir hefyd bod y cyngor yn nodi'r camau y gallai eu cymryd i liniaru effaith cau'r ysgol ar y gymuned ac i archwilio ymarferoldeb sefydlu ysgol gynradd Gymraeg yn Llanfihangel Rhydithon.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Portffolio'r Cabinet ar faterion Dysgu ym Mhowys: "Mae'r Cabinet newydd wedi penderfynu ailedrych ar y cynigion i gau'r ddwy ysgol hyn gan fod angen i ni ystyried yn ofalus y goblygiadau ehangach os caiff y cynigion eu gweithredu.

"Mae Cod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru yn caniatáu i'r cyngor ohirio cynigion a byddaf yn argymell i'r Cabinet ein bod yn gohirio rhoi'r ddau gynnig cau ar waith tan 31 Awst 2023.

"Byddai oedi cyn cau Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanbedr yn caniatáu cynnal adolygiad ardal o ddalgylch Crughywel er mwyn pa ffordd arall y ffefrir ar gyfer y dalgylch cyfan. Os caiff hyn ei gymeradwyo gan y Cabinet, bydd papur arall sy'n amlinellu'r ffordd arfaethedig ymlaen yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o'r Cabinet yn y dyfodol."

"Os yw oedi cau Ysgol Gynradd Gymunedol Llanfihangel Rhydithon yn cael ei gymeradwyo gan y Cabinet, bydd yn rhoi cyfle i'r cyngor edrych ar gamau y gellid eu cymryd i liniaru effaith y cau ar y gymuned - gallai hyn o bosibl gynnwys trosglwyddo'r ysgol i'w defnyddio gan y gymuned.  Byddai'r oedi hefyd yn gyfle i archwilio'r hyfywedd o sefydlu ysgol gynradd Cyfrwng Cymraeg yn Dolau, fel yr awgrymwyd gan y Pwyllgor Craffu Dysgu a Sgiliau blaenorol."

Bydd y Cabinet yn ystyried y cynigion ddydd Mawrth, 5 Gorffennaf. Byddant hefyd yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Craffu Ar Ddysgu a Sgiliau ddydd Mercher, 29 Mehefin.