Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Ysgol Gynradd Sirol Llanfihangel Rhydieithon ac Adolygiad Barnwrol

Image of a gavel

27 Mehefin 2022

Image of a gavel
Mae her gyfreithiol ynghylch penderfyniad i gau ysgol fach wedi bod yn aflwyddiannus, dywedodd Cyngor Sir Powys.

Dydd Mercher, 22 Mehefin 2022, ystyriodd yr Uchel Lys y cais am yr Adolygiad Barnwrol mewn gwrandawiad yng Nghaerdydd a gwrthododd Mrs Ustus Steyn ganiatâd am Adolygiad Barnwrol i gael ei gynnal i herio'r penderfyniad a wnaed ddydd Iau 8 Chwefror, 2022 i gau Ysgol Gynradd Sirol Llanfihangel Rhydieithon.

Dyfarnodd y Barnwr nad oedd yna ddadl fod y Cyngor:

  1. wedi methu â chymhwyso'r rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig sy'n ofynnol yn ôl Cod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru, nac ychwaith;
  2. wedi methu  ag ystyried yn gydwybodol, ffederasiwn ag Ysgol yr Eglwys yng Nghymru, Llanelwedd

Gwnaeth y Barnwr hefyd wrthod dadl fod y Cyngor wedi cyflawni tor dyletswydd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Cafodd y cais am Adolygiad Barnwrol ei wrthod a chafodd yr Hawliwr orchymyn i dalu £5,000 tuag at gostau'r Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys: "Er y bydd y newyddion hwn yn siomedig i gymuned ysgol Llanfihangel Rhydieithon, mae'r dyfarniad yn dangos fod y Cyngor wedi dilyn y gweithdrefnau cywir yn unol â Chod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru pan ddaethpwyd i'r penderfyniad yn y lle cyntaf.

"Fodd bynnag, mae'r Cabinet wedi penderfynu ailymweld â'r cynnig i gau Ysgol Gynradd Sirol Llanfihangel Rhydieithon am fod angen i ni roi ystyriaeth ofalus i'r goblygiadau ehangach os gaiff y cynnig ei weithredu.

"Bydd y Cabinet yn ystyried adroddiad am yr ysgol ddydd Iau, 5 Gorffennaf. Caiff hwn ei ystyried hefyd gan Bwyllgor Craffu Dysgu a Sgiliau ddydd Mercher, 29 Mehefin."

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet dros Ddysgu Powys: "Bydd y penderfyniad hwn yn cael ei groesawu'n gynnes gan staff y cyngor. Yn yr achos hwn roedd yr adolygiad barnwrol ynghylch sut oedd swyddogion wedi gweithredu penderfyniad, ac nid ynghylch y penderfyniad ei hun. Rwyf felly'n falch bod y prosesau yr oedd y staff wedi eu dilyn wedi cael eu cadarnhau i fod yn gydsyniol ac y gallant symud ymlaen gyda chynigion eraill yn fwy hyderus."