Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gwaith i ddechrau ym mis Gorffennaf ar adeiladu ysgol arbennig newydd

Image of artists impression of new Ysgol Cedewain school

27 Mehefin 2022

Image of artists impression of new Ysgol Cedewain school
Cyhoeddodd y cyngor sir y bydd gwaith yn dechrau fis nesaf ar brosiect adeiladu a fydd yn trawsnewid addysg i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.

Bydd Cyngor Sir Powys a'i gontractwr Wynne Construction yn dechrau adeiladu'r adeilad newydd ar gyfer Ysgol Cedewain yn Y Drenewydd ym mis Gorffennaf.

Bydd modd bwrw 'mlaen gyda'r prosiect wedi i Lywodraeth Cymru, a fydd yn ariannu 75% o gostau'r prosiect dan y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, gymeradwyo Achos Busnes Llawn y cyngor.  Y cyngor fydd yn ariannu'r 25% sy'n weddill.

Bydd yr adeilad newydd yn cael ei godi yn lle adeiladau presennol Ysgol Cedewain sydd mewn cyflwr drwg, a bydd yn cynnwys cyfleusterau i ddysgwyr sy'n agored iawn i niwed, gan gynnwys pwll hydrotherapi, ystafelloedd synhwyraidd a ffisiotherapi, gardd a chaffi cymunedol.

Bydd yn galluogi staff i addysgu mewn amgylchedd dysgu sy'n addas i'r diben ac i rieni fod yn hyderus bod eu plant yn derbyn gofal gyda'r cyfleusterau a'r llety gorau.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Rwy'n falch dros ben y bydd y gwaith i adeiladu adeilad newydd ar gyfer Ysgol Cedewain yn dechrau'n fuan.  Gyda'r prosiect hwn, bydd y cyngor yn gallu darparu cyfleuster o'r radd orau i ddysgwyr mwyaf bregus y sir.

"Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am eu cymeradwyaeth.  Bydd yn golygu y gall y cyngor ddarparu amgylchedd lle bydd staff addysgu a dysgwyr yn ffynnu a hynny gyda chyfleusterau sy'n ateb anghenion dysgwyr sy'n agored i niwed."

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: "Rydym eisiau helpu plant a phobl ifanc ym mhob cwr o Gymru trwy ddarparu'r amgylcheddau dysgu gorau posibl lle bydd pob un ohonynt yn gallu ffynnu.  Trwy Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, rydym yn gallu cefnogi'r prosiect newydd cyffrous hwn yn Ysgol Cedewain ac rwy'n edrych ymlaen at alw yno pan fydd yr adeilad newydd yn barod."