Toglo gwelededd dewislen symudol

Hoff weithiau celf Cymru ar daith drwy'r genedl

Image of y Gaer

28 Mehefin 2022

Image of y Gaer
Bydd detholiad o hoff ddarnau celf y genedl yn cyrraedd Aberhonddu cyn bo hir fel rhan o brosiect Celf ar y Cyd Ar Daith, menter i rannu'r casgliad celf cenedlaethol â chymunedau ac orielau ar draws y wlad.

Bydd tua 30 gwaith celf o gasgliad Amgueddfa Cymru i'w gweld yn y Gaer rhwng 9 Gorffennaf a 30 Hydref.

Cynhelir Celf ar y Cyd Ar Daith yn dilyn pleidlais a gynhaliwyd yn ystod pandemig Covid-19. Tra'r oedd orielau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar gau yn 2020, dewisodd curaduron Amgueddfa Cymru 100 o weithiau celf a'u rhannu'n ddigidol trwy gyfrif Instagram @celfarycyd.

Gofynnwyd i'r cyhoedd bleidleisio dros eu hoff weithiau celf o'r casgliad trwy 'hoffi' eu ffefrynnau. Defnyddiwyd y canlyniadau hyn i greu rhestr fer o'r hoff weithiau celf.

Nawr, mae detholiad o'r gweithiau celf mwyaf poblogaidd yn teithio i wahanol orielau yng Nghymru. O gerfiadau carreg neolithig i gelf gyfoes, serameg a ffotograffiaeth, mae'r detholiad yn adlewyrchu amrywiaeth a chyfoeth bywyd yng Nghymru. Ymhlith yr artistiaid mae Thomas Jones, Betty Woodman, Adam Buick, David Hurn, Laura Ford, Elizabeth Fritsch a llawer mwy.

Grŵp o bedwar project yw Celf ar y Cyd, a ddatblygwyd i rannu'r celfyddydau gweledol ar draws Cymru fel ymateb i'r argyfwng iechyd cyfredol. Mae'r project, sydd wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Yn ogystal â Celf ar y Cyd Ar Daith, mae'r projectau'n cynnwys Celf mewn Ysbytai, y cylchgrawn celfyddydol Cynfas, a chyfres o gomisiynau celf newydd yn gofyn i artistiaid sy'n gweithio yng Nghymru gydweithio â'u cymunedau i ymateb i'r argyfwng iechyd.

Dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus: "Mae'n braf gallu dod â'r casgliad hwn o drysorau o Amgueddfa Cymru i Bowys ac i allu croesawu'r arddangosfa hon i Amgueddfa, Oriel Gelf a Llyfrgell y Gaer, Aberhonddu.  Dyma'r hyb ddiwylliannol newydd sydd wedi cyfuno Amgueddfa Brycheiniog a Llyfrgell Aberhonddu mewn adeilad newydd pwrpasol.  Rydym yn gobeithio y bydd ymwelwyr yn mwynhau'r arddangosfa ac yn cael golwg o amgylch yr adeilad newydd hwn."

Meddai Kath Davies "Bydd hoff weithiau celf y cyhoedd a ddewiswyd trwy bleidlais yn mynd ar daith, gan fynd â'r casgliad cenedlaethol i gymunedau ar draws Cymru. Trwy weithio mewn partneriaeth â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Y Gaer ac Oriel Ynys Môn, caiff pobl ar draws Cymru fwynhau'r gweithiau celf hyn."

Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon: "Rwyn falch iawn ein bod wedi gallu darparu cymorth ariannol ar gyfer Celf ar y Cyd. Mae'n newyddion gwych bod yr arddangosfa hon - a ddewiswyd gan bleidlais y cyhoedd - bellach yn teithio Cymru. Mae'n ffordd wych o alluogi mwy o bobl i weld cyfoeth ac amrywiaeth gweithiau celf Amgueddfa Cymru a'i rannu â chymunedau ledled Cymru."