Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Trefniadau Gweithredol Dros Dro

Image of County Hall

28 Mehefin 2022

Image of County Hall
Mae trefniadau rheoli gweithredol newydd dros dro'n cael eu cyflwyno gan Gyngor Sir Powys yn dilyn ymadawiad Cyfarwyddwr Gweithredol.

Mae Ali Bulman, Cyfarwyddwr Gweithredol - Pobl a Datblygu'r Sefydliad, yn gadael y cyngor i ddechrau swydd newydd fel Cyfarwyddwr Strategol - Gofal a Lles gyda Chyngor Sir Cernyw.

Dywedodd y Prif Weithredwr, Dr Caroline Turner: "Rydym yn diolch yn fawr i Ali am ei gwaith caled a'i hymroddiad, yn arbennig dros y ddwy flynedd ddiwethaf pan roedd gwasanaethau dan bwysau sylweddol.  Rydym yn dymuno'n dda iddi yn ei swydd newydd.

"Mae'r ffaith ei bod yn gadael wedi rhoi cyfle i'r Cyngor ail-edrych ar drefniadau gweithredol ac atgyfnerthu cysylltiadau rhwng y Gwasanaeth Addysg a Gwasanaethau Plant a rhwng Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Comisiynu a Thai.

"Yn dilyn yr etholiadau lleol ym mis Mai, mae gan y Cyngor Gabinet newydd sydd wedi cytuno ar ei Gytundeb Partneriaeth Blaengar sy'n cael ei ddatblygu'n Gynllun Corfforaethol newydd.

"Mae'n bwysig felly fod strwythur lefel uwch y Cyngor yn cael ei haddasu i gefnogi a gwireddu'r blaenoriaethau hyn.  Yn dilyn trafodaethau â'r Arweinydd a'r Cabinet, rydym wedi cytuno i lunio strwythur rheoli gweithredol dros dro am hyd at 12 mis.

"Bydd y strwythur dros dro'n cynnwys Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai a fydd yn gyfrifol am Wasanaethau Cymdeithasol, Comisiynu a Thai, yn ogystal â swydd statudol Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

"Penodwyd Nina Davies, sydd ar hyn o bryd yn Bennaeth Tai a Datblygu Cymunedol, i'r swydd hon a bydd yn dechrau ddydd Gwener (1 Gorffennaf)

"Rydym yn atgyfnerthu'r berthynas rhwng Gwasanaethau Plant a'r Gwasanaeth Addysg trwy greu rôl Cyfarwyddwr Addysg a Phlant, a bydd y Cyfarwyddwr Addysg presennol Lynette Lovell yn dechrau yn y swydd ddydd Gwener.

"Bydd y newid olaf i'r trefniadau rheoli'n gweld Emma Palmer, sydd ar hyn o bryd yn Bennaeth Trawsnewid a Chyfathrebu, yn cael ei phenodi'n Gyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol, yn gyfrifol am y Gweithlu, Cynllun y Sefydliad, Gwasanaethau Digidol, Trawsnewid a Chyfathrebu.

"Bydd y rôl newydd yn rhannu cyfrifoldeb â Chyfarwyddwr Gweithredol yr Economi a'r Amgylchedd am reoli Pennaeth Gwasanaethau Digidol o ran systemau TGCh mewnol y cyngor a'r rhai a gyflwynir i'r Bwrdd Iechyd.

"Bydd y Cyfarwyddwr Gweithredol, Nigel Brinn, yn dal i fod yn gyfrifol am reoli rhannau eraill o'r Gwasanaeth, yn benodol Datblygu Economaidd a Diwylliant a Hamdden.

"Rydym wedi rhoi gwybod i swyddogion Llywodraeth Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru ac Estyn o'n cynigion ac maen nhw'n gefnogol.  Rydym yn dymuno'n dda i'r swyddogion gweithredol newydd yn eu swyddi ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw", ychwanegodd.