Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Sicrhau cyllid ar gyfer gwelliannau pellach i deithio llesol yn y sir

Image of a cycle path sign

1 Gorffennaf 2022

Image of a cycle path sign
Mae Cyngor Sir Powys wedi sicrhau cyllid pellach gan Lywodraeth Cymru i ymestyn a gwella llwybrau teithio y sir.

Wedi iddo ymrwymo i wella cyfleusterau i drigolion sy'n awyddus i wneud teithiau byr ar droed neu ar feic, mae'r cyngor wedi bod yn gweithio gyda chymunedau i ddod o hyd i lwybrau teithio llesol posibl ar draws Powys. Drwy ymarferion ymgysylltu ac ymgynghoriadau, mae llwybrau teithio llesol y gellid naill ai eu gwella neu eu cyflwyno wedi'u nodi a'u hychwanegu at Fapiau Rhwydwaith Teithio Llesol y cynghorau.

Bydd cyllid diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer Teithio Llesol yn cefnogi gwaith parhaus ar y ddau gynllun canlynol yn y Drenewydd:

  • Parhau i ddatblygu'r ddarpariaeth teithio llesol yn Nhreowen, y Drenewydd. Yn 2021/22 sefydlwyd llwybr teithio llesol i wella mynediad cerdded a beicio rhwng Ffordd Dolfor ac Ysgol Gynradd Treowen. Mae arian bellach wedi'i ddyfarnu i ymestyn y llwybr hwn drwy adeiladu llwybr o Brimmon Lane, croesi'r ffordd ar ôl Colwyn a pharhau i lawr y bryn i Ffordd Ceri. Bydd hyn nid yn unig yn gwella'r ddarpariaeth teithio llesol a mynediad i breswylwyr yn sylweddol, a bydd hefyd yn ehangu'r rhwydwaith teithio llesol lleol.
  • Yn dilyn cais cynllunio llwyddiannus, mae'r cyllid ar gyfer Ponthirddisgwyliedig  y Drenewydd wedi'i sicrhau. Bydd y bont hon i feicwyr a cherddwyr yn rhychwantu Afon Hafren ac yn cysylltu llwybr glan yr afon a Ffordd y Trallwng yn y Drenewydd, gan greu cyswllt teithio llesol diogel rhwng y cymunedau, busnesau ac amwynderau ar bob ochr i'r afon.

Mae'r cyngor hefyd wedi derbyn cyllid Llwybrau Diogel mewn Cymunedau i wella'r llwybr cerdded a beicio i Ysgol Gynradd LlanelweddoLanfair-ym-Muallt.

Yn dilyn trafodaethau gydag Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru a thirfeddianwyr, bydd y cynllun yn lledu'r llwybr ar hyd y ffordd o Ysgol Gynradd Llanelwedd, yn cynnwys man croesi diogel ar draws y briffordd ac yn gwella'r llwybr yn y cae y tu ôl i iard Jewsons. Gyda'r ddarpariaeth teithio llesol hon, bydd y llwybr rhwng Llanelwedd a Llanfair-ym-Muallt yn fwy diogel i bob defnyddiwr, yn enwedig i deuluoedd a disgyblion sy'n mynd i'r ysgol ac oddi yno.

"Mae'r llwybrau teithio llesol ledled y sir eisoes yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cymunedau." Yn esbonio'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet dros Bowys Gwyrddach.

"Drwy sicrhau bod gennym y cyfleusterau yn eu lle, rydym yn ceisio ei gwneud yn bosibl i bawb ym Mhowys wneud teithiau byr, er enghraifft teithio i'r gwaith, yt ysgol neu siopau lleol, drwy ddulliau corfforol llesol, fel cerdded neu feicio.

"Nod Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yw gwneud Cymru'n genedl cerdded a beicio ac rydym yn falch iawn o fod wedi sicrhau'r rhandaliad diweddaraf hwn o gyllid Llywodraeth Cymru, gan ganiatáu i ni ddechrau gweithio ar y set nesaf o brosiectau teithio llesol a fydd yn gwella diogelwch ar y ffyrdd, a diogelwch i gerddwyr a beicwyr."

Bydd rhagor o wybodaeth a chadarnhad o ddyddiad cychwyn y gwaith yn cael eu rhyddhau cyn bo hir.