Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rhybudd: Mae cymorth ar gael ar gyfer costau olew gwresogi sy'n codi.

Asesiad o Ddigonolrwydd Clyfleoedd Chwarae 2025-2028

Gweledigaeth yr Asesiad Digonolrwydd Chwarae yw sicrhau fod pob plentyn ym Mhowys yn cael mynediad at ddigon o gyfleoedd chwarae sy'n cefnogi eu llesiant corfforol, meddyliol ac emosiynol. 

Mae'r Awdurdod Lleol yn cydnabod rol hanfodol chwarae ym mywydau polant, pobl ifanc a theuluoedd, gan gyd-fynd a nod Llywodraeth Cymru o greu 'Cymru Iachach' wedi'I arwain gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, yn enwedig Erthygl 31, mae'r Awdurdod Lleol yn sicrhau bod chwarae yn cael ei ddewis yn rhydd, wedi'i gyfarwyddo'n bersonol, ac yn rhan sylfanol ac annatod. Mae'r math hwn o chwarae yn hanfodol i ddatblygu iach, gan fod o fudd nid yn unig i blant unigol ond hefyd i'r gymdeithas y maent yn byw ynddi.

Mae Chwarae Cymru yn pwysleisio mai chwarae yw un o agweddau pwysicaf bywydau plant. Mae plant yn sôn yn gyson am chwarae a chwrdd â'u ffrindiau fel yr hyn sydd bwysicaf iddynt. Maent yn gwerthfawrogi amser, rhyddid a lleoedd o safon i chwarae. Mae'r Fframwaith Ansawdd ar gyfer Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru (2023) yn amlygu ymhellach bod chwarae yn hanfodol ar gyfer datblygiad plant, gan gyfrannu at eu lles gwybyddol, corfforol, cymdeithasol ac emosiynol. Mae chwarae yn caniatáu i blant archwilio eu hamgylchedd, datblygu sgiliau newydd, a meithrin perthynas ag eraill.

Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn cyd-fynd â'r ddealltwriaeth hon, gan bwysleisio iechyd a llesiant. Anogir ysgolion i ddarparu cyfleoedd dysgu mwy hyblyg, gan ymgorffori dysgu yn yr awyr agored ar draws gwersi a gweithgareddau. Mae Cyngor Sir Powys yn cydnabod, er mwyn i blant gael digon o gyfleoedd chwarae, fod angen amser arnynt i chwarae, lle i chwarae, a chydnabyddiaeth gan oedolion mai dyma hawl pob plentyn. Mae hyn yn sicrhau bod pob plentyn yn cael yr amser a'r lle hwn.

Crynodeb Gweithredol o'r Asesiad o Ddigonolrwydd Clyfleoedd Chwarae (PSA) (PDF, 413 KB)

Rhannwch y dudalen hon