Toglo gwelededd dewislen symudol

Powys i ddod yn Gyngor Balch

Image of Powys logo in Pride colours

4 Gorffennaf 2022

Image of Powys logo in Pride colours
Bydd aelod newydd gan bartneriaeth llywodraeth leol sy'n cefnogi ac yn hyrwyddo cynhwysiant LHDTC+ yng nghymunedau Cymru.

Bydd Cyngor Sir Powys yn dod yn 'Gyngor Balch' a'r awdurdod gwledig cyntaf yng Nghymru i ymuno â'r bartneriaeth.

Partneriaeth wirfoddol o awdurdodau lleol yng Nghymru yw Cynghorau Balch sy'n rhagweithiol o ran cynnwys pobl LHDTC+.  Fe'i ffurfiwyd yn 2015 i sicrhau bod llywodraeth leol ledled Cymru yn arweinydd gweladwy yn y maes hawliau LHDTC+ ac yn mynd ati i hyrwyddo cynhwysiant LHDTC+ mewn cymunedau ledled Cymru.

Nod y bartneriaeth yw creu dull unedig a chydweithredol o ymdrin â chynhwysiant LHDTC+ ledled Cymru, gan gefnogi awdurdodau lleol sy'n aelodau gyda'u hymrwymiad i greu gweithleoedd a chymunedau cyfartal, amrywiol a chynhwysol, lle gall y gymuned LHDTC+ fod yn rhydd o wahaniaethu neu ragfarn.

Cymeradwywyd y penderfyniad i ddod yn Gyngor Balch gan y Cabinet ddydd Mawrth 28 Mehefin.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Rwy'n falch iawn y bydd Cyngor Sir Powys yn dod yn Gyngor Balch. Mae'n arbennig o braf bod y penderfyniad i ymuno â'r bartneriaeth hon wedi'i wneud yn ystod Mis Pride.

"Mae'r penderfyniad i ddod yn Gyngor Balch yn anfon neges glir iawn ein bod yn gyflogwr croesawgar a chynhwysol sy'n cefnogi ac yn hyrwyddo amrywiaeth ar draws ein gweithlu gan gefnogi'r gymuned LHDTC+ ym Mhowys.

"Mae'n bwysig bod y cyngor yn gwneud mwy i gefnogi ein staff a'n preswylwyr LHDTC+.  Ein huchelgais yw adeiladu Powys Decach, ac mae dod yn Gyngor Balch yn gam pwysig tuag at gyflawni hyn."

Yr awdurdodau lleol eraill yng Nghymru sy'n Gynghorau Balch yw:

Blaenau Gwent; Pen-y-bont ar Ogwr; Caerffili; Caerdydd; Merthyr Tudful; Casnewydd; Rhondda Cynon Taf; Abertawe; Torfaen.