Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn croesawu awdur lleol i lofnodi llyfrau

Jan Brown

4 Gorffennaf 2022

Jan Brown
Bydd yr awdur lleol, Jan Brown, yn ymuno â Gwasanaeth Llyfrgelloedd Cyngor Sir Powys i hyrwyddo a llofnodi ei llyfr newydd, 'People Like Us'

Cynhelir y digwyddiad yn Y Lanfa (Amgueddfa Powysland a Llyfrgell y Trallwng), ddydd Sadwrn 9 Gorffennaf rhwng 10am a 12pm a gallwch ymuno am ddim.

Mae'People Like Us'wedi'i leoli yn Sir Drefaldwyn yn ystod y blynyddoedd 1800-1940 ac mae'n seiliedig ar fywyd Margaret, mam-gu Jan Brown, a fu'n gweithio yn Neuadd Gregynog fel cogydd ac yn ddiweddarach fel ceidwad tŷ.

Dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Mwy Llewyrchus: "Rydym yn gyffrous iawn i fod yn croesawu Jan i'r Trallwng i hyrwyddo ei llyfr newydd. Mae'n wych gweld ein gwasanaeth llyfrgelloedd yn cynnal digwyddiadau fel hyn ac rydym yn falch iawn o gymryd rhan, yn enwedig pan fydd gennym awdur sydd â chysylltiad lleol â'r sir. Rydym yn gobeithio'n fawr y gall cymaint o'n trigolion ymuno â ni â phosibl."

Bydd eitemau o'r amgueddfa yn gysylltiedig â Neuadd Gregynog yn cael eu harddangos yn ystod y digwyddiad, yn ogystal â gwisg o'r 1890au. Bydd copïau o 'People Like Us'ar gael i'w prynu ar y diwrnod (arian parod yn unig).