Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cabinet yn cymeradwyo Cynllun Cymorth Disgresiynol Costau Byw

Image of money

6 Gorffennaf 2022

Image of money
Bydd miloedd o drigolion sy'n agored i niwed ym Mhowys yn derbyn cymorth ariannol ar ôl i'r Cabinet benderfynu sut i wario arian i helpu'r rhai sy'n dioddef fwyaf o'r argyfwng costau byw.

Derbyniodd Gyngor Sir Powys £924,373 gan Lywodraeth Cymru i gynnig cymorth disgresiynol dros yr argyfwng costau byw.

Ar ddydd Mawrth 5 Gorffennaf, fe wnaeth y Cabinet gymeradwyo Cynllun Cymorth Disgresiynol Costau Byw a bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gynnig cymorth i hyd at 3,000 o drigolion mwyaf bregus y sir sydd heb lwyddo i gael help trwy'r prif Gynllun Cymorth Costau Byw.

Mae'r cynllun disgresiynol yn cynnwys:

  • £150 i drigolion sy'n derbyn gostyngiad band i bobl anabl nad ydynt yn derbyn cymorth trwy'r brif gynllun.
  • £150 i drigolion sy'n byw mewn eiddo sydd wedi'i eithrio ar hyn o bryd o Dreth y Cyngor.
  • £150 i deuluoedd plant sy'n derbyn prydau ysgol am ddim ac nid yn derbyn cymorth trwy'r prif gynllun.
  • £150 i bobl ifanc sy'n agored i niwed.
  • £150 i drigolion sydd ag anghenion gofal yn y gymuned ac wedi cael asesiad prawf modd ac nid yn derbyn cymorth trwy'r prif gynllun.
  • £150 i drigolion sy'n agored i niwed ac yn byw mewn cartrefi sydd ar danwydd nad yw ar brif gyflenwad, ac nid yn derbyn cymorth trwy'r prif gynllun.

Bydd elfennau eraill y cynllun cymorth yn gweld:

  • Cynllun Atal Colli Cartrefi i atal digartrefedd gyda help ar gyfer dyledion rhent a'r rhai sydd â morgeisi ac yn wynebu colli eu cartrefi.
  • Grant o £5,000 i bob banc bwyd ym Mhowys.
  • Hyd at £1,000 o grant i bob clwb brecwast sy'n rhan o ysgol.
  • Hyd at £5,000 o grantiau i helpu grwpiau lleol ac asiantaethau sy'n gweithio'n uniongyrchol â chwsmeriaid mewn angen trwy'r argyfwng hwn.

Hefyd bydd yna gronfa lle bydd swyddogion y cyngor sy'n gweithio'n uniongyrchol â thrigolion bregus, yn gallu ei ddefnyddio i helpu gydag anghenion argyfwng costau byw wrth iddynt ddod ar ei draws.

Hefyd bydd £250,000 yn cael ei neilltuo ar gyfer gwaith effeithlonrwydd ynni yng nghartrefi trigolion bregus i geisio torri costau ynni a chynnig atebion tymor hir i'r argyfwng costau tanwydd.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Rydym yn cymryd camau i geisio mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw a helpu pobl Powys.  Mae trigolion yn teimlo effeithiau'r argyfwng hwn yn y gorsafoedd petrol, gyda biliau nwy ac yn yr archfarchnad, ac fe wnawn ein gorau glas i'w helpu.

"Rwy'n falch bod y Cabinet wedi sefydlu'r cynllun hwn i helpu'r rhai hynny sydd â'r angen mwyaf ym Mhowys ac rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am yr arian hwn."

Dywedodd y Cynghorydd David Thomas, Aelod Cabinet ar gyfer Cyllid a Thrawsnewid Corfforaethol: "Rydym wedi targedu'r grwpiau hynny o drigolion sydd angen ein help ni fwyaf ar hyn o bryd ond rydym hefyd wedi canolbwyntio ar y tymor hir trwy ddarparu cyllid i fanciau bwyd, clybiau brecwast ac asiantaethau cymorth eraill."

Fel gyda'r prif gynllun Cymorth Costau Byw sy'n cael ei gyflwyno ar hyn o bryd, os oes gan y Cyngor fanylion banc pobl cymwys yn y categoriau dan sylw, bydd yn talu'r £150 yn awtomatig.  Os nad yw'r manylion hynny ar gael, bydd y Cyngor yn cysylltu ag aelwydydd cymwys i wneud cais am y grant.